(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”) yn nodi’r gofynion hyfforddi ar gyfer llywodraethwyr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae’r gofynion hyfforddi mewn perthynas â data perfformiad ysgolion wedi eu nodi mewn dogfen o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru ar ddeall data ysgolion” ac y mae cyfeiriad ati yn y diffiniad o “yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion” (“dogfen 2014”) yn rheoliad 2 o Reoliadau 2013. Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r diffiniad hwnnw er mwyn rhoi yn lle’r cyfeiriad at ddogfen 2014, gyfeiriad at y gofynion hyfforddi newydd ar ddata perfformiad ysgolion a nodir mewn dogfen o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru ar ddeall data ysgolion” (“dogfen 2016”).
Mae rheoliad 3 yn cynnwys darpariaeth arbed y mae ganddi’r effaith fel na fydd yn ofynnol i lywodraethwyr ysgolion presennol gwblhau’r hyfforddiant yn nogfen 2016 os ydynt eisoes wedi cwblhau’r hyfforddiant sy’n ofynnol gan Reoliadau 2013 cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.