Search Legislation

Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygio) (Cymru) 2016

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Diwygio Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014

3.—(1Mae Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 6, yn lle “y diwrnod hwnnw”, rhodder “ddiwrnod gwaith cyntaf pob mis calendr”.

(3Ym mharagraff 4(1) o Atodlen 1 yn lle “torri” rhodder “gwrthdaro ag”.

(4Yn lle paragraff 5(2) o Atodlen 1 rhodder—

(2) Pan fo amodau ar safle penodol yn lleihau’r risg o erydiad pridd a phan fo buddiolwr yn gadael tir heb orchudd o gnydau, sofl, gweddillion neu lystyfiant arall ar ôl trin y tir, rhaid i fuddiolwr:

(a)gadael gorchudd arwyneb garw; a

(b)peidio â chaniatáu i bridd erydu i lawr llethr neu oddi ar y safle; ac

(c)llunio asesiad risg pridd arwyneb garw a’i gyflwyno i Weinidogion Cymru ar y diwrnod y caiff y tir ei drin gan adael arwyneb garw, neu cyn hynny.

(3) Yn y paragraff hwn—

ystyr “oddi ar y safle” (“off-site”) yw unrhyw fan sydd y tu hwnt i derfyn cae mewn daliad, gan gynnwys cae arall sy’n rhan o’r un daliad.

Back to top

Options/Help