NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1252) (Cy. 84) (“y Rheoliadau Taliad Sylfaenol”) a Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/3223) (Cy. 328) (“y Rheoliadau Trawsgydymffurfio”).

Mae rheoliad 2(2) yn gwneud mân ddiwygiad i reoliad 16(3)(a) o’r Rheoliadau Taliad Sylfaenol er mwyn ymgorffori stribedi coediog. Mae rheoliad 2(3) yn dirymu rheoliad 17 o’r un Rheoliadau.

Mae rheoliad 2(4) yn diwygio’r Rheoliadau Taliad Sylfaenol drwy fewnosod darpariaethau sy’n darparu y sefydlir Cronfa Genedlaethol gan Weinidogion Cymru ac yn nodi, yn ôl trefn blaenoriaeth, sut y defnyddir arian y gronfa honno. Mae rheoliad 2(4) hefyd yn mewnosod darpariaeth sy’n nodi cymhwysiad y gydran “wyrddu” o daliadau uniongyrchol, sy’n cysylltu taliadau ag arferion amaethyddol sy’n llesol i’r hinsawdd a’r amgylchedd.

Mae rheoliad 2(5) yn dirymu Rhan 2 o’r Atodlen i’r Rheoliadau Taliad Uniongyrchol.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 6 o’r Rheoliadau Trawsgydymffurfio, a pharagraffau 4 a 5 o Atodlen 1 iddynt. Mae rheoliad 3(2) yn diwygio rheoliad 6 mewn cysylltiad â sut y caiff y gyfradd log sy’n gymwys ei chyfrifo. Mae rheoliad 3(3) a (4) yn gwneud diwygiadau i’r Atodlen er mwyn caniatáu i fuddiolwr adael gorchudd arwyneb garw ar ôl cynaeafu ar yr amod bod yr asesiad risg angenrheidiol wedi ei gynnal a bod Gweinidogion Cymru wedi eu hysbysu amdano.

Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan yr Adran Cyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.