Mae adran 80(1)(a) a (b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i Ofal Cymdeithasol Cymru gadw cofrestr o weithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad arall a bennir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau. Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu’r disgrifiadau o weithwyr gofal cymdeithasol y mae rhaid cadw cofrestr ar eu cyfer.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.