Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Radiograffydd Therapiwtig-Ragnodydd Annibynnol a Deietegydd-Ragnodydd Atodol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Radiograffydd Therapiwtig-Ragnodydd Annibynnol a Deietegydd-Ragnodydd Atodol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 9 Ionawr 2017.
(2)
Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2.
Yn y Rheoliadau hyn—
Diwygio Rheoliadau 20043.
(1)
Mae Rheoliadau 2004 wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2)
““the Health and Care Professions Council register” means the register established and maintained by the Health and Care Professions Council under article 5 of the Health and Social Work Professions Order 20017;”;
““registered radiographer” means a person registered in Part 11 of the Health and Care Professions Council register;”;
““therapeutic radiographer independent prescriber” means a person —
(a)
who is a registered radiographer; and
(b)
against whose name is recorded in the relevant register
- (i)
an entitlement to use the title “therapeutic radiographer”; and
- (ii)
an annotation signifying that he or she is qualified to order drugs, medicines and appliances as a therapeutic radiographer independent prescriber;”.
(3)
Yn rheoliad 2(1) —
(a)
yn y diffiniad o “prescriber”—
(i)
yn is-baragraff (f) hepgorer “and”;
(ii)
yn is-baragraff (g) ar ôl “prescriber;” mewnosoder “and”;
(iii)
“(h)
a therapeutic radiographer independent prescriber,”;
(b)
“(dd)
dietitians, or”; ac
(c)
“(ia)
dietitians;”.
(4)
Ym mharagraff 49(3) a (4) o Atodlen 6 (telerau sy’n berthnasol i ddarparu gwasanaethau gweinyddu) ar ôl “chiropodist independent prescriber” ym mhob lle y mae’n digwydd mewnosoder “, a therapeutic radiographer independent prescriber”.
(5)
Ym mharagraff 64(1) a (2) o Atodlen 6 (sy’n ymwneud â nyrsys sy’n rhagnodi’n annibynnol, nyrsys-ragnodwyr annibynnol, fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol, ffisiotherapyddion-ragnodwyr annibynnol, podiatryddion-ragnodwyr neu giropodyddion-ragnodwyr annibynnol a rhagnodwyr atodol) ar ôl “chiropodist independent prescriber” ym mhob lle y mae’n digwydd mewnosoder “, a therapeutic radiographer independent prescriber”.
(6)
Ym mhennawd paragraff 64 o Atodlen 6, ar ôl “chiropodist independent prescriber” mewnosoder “, therapeutic radiographer independent prescriber”.
Diwygio Rheoliadau 20074.
(1)
Mae Rheoliadau 2007 wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2)
“ystyr “cofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal” (“the Health and Care Professions Council register”) yw’r gofrestr a sefydlwyd ac a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001;”;
“ystyr “radiograffydd cofrestredig” (“registered radiographer”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 11 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal;”;
“ystyr “radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol” (“therapeutic radiographer independent prescriber”) yw person—
(a)
sy’n radiograffydd cofrestredig, a
(b)
y cofnodir yn erbyn ei enw yn y gofrestr berthnasol—
- (i)
hawl i ddefnyddio’r teitl “radiograffydd therapiwtig”; a
- (ii)
nodyn yn dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol;”.
(3)
Yn rheoliad 2(1)—
(a)
yn y diffiniad o “rhagnodydd” (“prescriber”)—
(i)
yn is-baragraff (dd) hepgorer “ac”;
(ii)
yn is-baragraff (e) yn lle “rhagnodydd annibynnol.” mewnosoder “rhagnodydd annibynnol; ac”;
(iii)
“(f)
radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol,”;
(b)
“(ia)
deietegwyr;”;
(c)
yn y diffiniad o “rhagnodydd atodol” (“supplementary prescriber”)—
(i)
ar ôl “diagnostig neu therapiwtig,”, hepgorer “neu”; a
(ii)
“(chch)
deietegwyr, neu”.
Diwygio Rheoliadau 20105.
(1)
Mae Rheoliadau 2010 wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2)
Ym mharagraff 1(2)(a) o Atodlen 1 (Esemptiadau), ar ôl “podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol” mewnosoder “, radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol”.
(3)
“mae i “radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol” (“therapeutic radiographer independent prescriber”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013;”
Diwygio Rheoliadau 20136.
(1)
Mae Rheoliadau 2013 wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2)
“ystyr “cofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal” (“the Health and Care Professions Council register”) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001;”;
“ystyr “radiograffydd cofrestredig” (“registered radiographer”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 11 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal;”;
“ystyr “radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol” (“therapeutic radiographer independent prescriber”) yw person—
(a)
sy’n radiograffydd cofrestredig, a
(b)
y cofnodir yn erbyn ei enw yn Rhan 11 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal —
- (i)
hawl i ddefnyddio’r teitl “radiograffydd therapiwtig”; a
- (ii)
nodyn yn dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol;”.
(3)
Yn rheoliad 2(1) —
(a)
yn y diffiniad o “rhagnodydd” (“prescriber”) ar ôl “ciropodydd-ragnodydd annibynnol” mewnosoder “, radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol”; a
(b)
yn is-baragraff (c)(i) o ddiffiniad “rhagnodydd atodol” (“supplementary prescriber”) ar ôl “chiropodyddion a phodiatryddion,” mewnosoder “ deietegwyr,”.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004, Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007 a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013 drwy estyn y diffiniad o ragnodydd drwy fewnosod categori ychwanegol o ragnodydd annibynnol: radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol a thrwy estyn y diffiniad o ragnodydd atodol i gynnwys deietegwyr.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 drwy estyn yr esemptiad i’r gofyniad i godi tâl am fagiau siopa untro.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad