xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gwnaed
30 Tachwedd 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
5 Rhagfyr 2016
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 60 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2016.
(2) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(2).
2.—(1) Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2017 neu ar ôl hynny.
(2) Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
30 Tachwedd 2016
Rheoliad 2
Billing authority area | Prescribed figure |
---|---|
Blaenau Gwent | 55,702 |
Bridgend/Pen-y-bont ar Ogwr | 113,059 |
Caerphilly/Caerffili | 141,653 |
Cardiff/Caerdydd | 283,659 |
Carmarthenshire/Sir Gaerfyrddin | 148,105 |
Ceredigion | 62,145 |
Conwy | 94,643 |
Denbighshire/Sir Ddinbych | 75,198 |
Flintshire/Sir y Fflint | 122,051 |
Gwynedd | 99,361 |
Isle of Anglesey/Ynys Môn | 56,501 |
Merthyr Tydfil/Merthyr Tudful | 46,831 |
Monmouthshire/Sir Fynwy | 74,719 |
Neath Port Talbot/Castell-nedd Port Talbot | 113,050 |
Newport/Casnewydd | 114,202 |
Pembrokeshire/Sir Benfro | 99,015 |
Powys | 107,712 |
Rhondda Cynon Taf | 187,694 |
Swansea/Abertawe | 195,356 |
Torfaen | 72,726 |
Vale of Glamorgan/Bro Morgannwg | 100,652 |
Wrexham/Wrecsam | 107,164” |
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”).
O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, mae’n ofynnol i awdurdodau bilio (sef, yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo’r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd (Ffigurau Poblogaeth Oedolion) yn lle’r un bresennol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1988 p. 41. Diwygiwyd adran 60 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi, gan adran 5 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17) a Rhan 1 o Atodlen 3 iddi.
O.S. 1992/3238 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/619, 1996/3018, 1997/3003, 1998/2962, 1999/3949 (Cy. 47), 2000/3382 (Cy. 220), 2001/3910 (Cy. 322), 2002/3054 (Cy. 289), 2003/3211 (Cy. 304), 2004/3232 (Cy. 280), 2005/3345 (Cy. 259), 2006/3347 (Cy. 307), 2007/3343 (Cy. 295), 2008/2929 (Cy. 258), 2009/3147 (Cy. 274), 2010/2889 (Cy. 239), 2011/2610 (Cy. 283), 2012/3036 (Cy. 310), 2013/3046 (Cy. 305), 2014/3193 (Cy. 323) a 2015/1905 (Cy. 277).