NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn cydgrynhoi darpariaethau Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012, Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio) 2014, Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2014 a Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio) 2015.

Maent hefyd yn dirymu ac yn diwygio’r ddeddfwriaeth a restrir yn rheoliad 52.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth yng ngoleuni adrannau 30 i 34 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) o ran ceisiadau a wneir o dan Ddeddf 2014 mewn cysylltiad â gorchmynion atal rhent a gorchmynion ad-dalu rhent. Mae’r Rheoliadau hefyd yn rhoi pŵer i dribiwnlys eiddo preswyl (“tribiwnlys”) gau ceisiadau anweithredol.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau yn pennu’r weithdrefn sydd i’w dilyn o ran ceisiadau ac apelau (y cyfeirir atynt ar y cyd fel ceisiadau) a wneir i dribiwnlys o dan Ddeddf 2014, Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”), Deddf Tai 2004 (“Deddf 2004”) a Rhan 9 o Ddeddf Tai 1985 (“Deddf 1985”) sy’n ymwneud â gorchmynion dymchwel.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd mewn cysylltiad ag apelau a cheisiadau penodol i dribiwnlysoedd.

Mae rheoliad 1 yn pennu’r achosion y mae’r Rheoliadau yn gymwys iddynt.

Mae rheoliad 2 yn diffinio’r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau.

Mae rheoliad 3 yn nodi’r prif amcan o ymdrin yn deg ac yn gyfiawn â cheisiadau, a’r gofyniad i gydweithredu â’r tribiwnlys.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â cheisiadau am estyn yr amser ar gyfer gwneud cais, yn yr achosion hynny pan fo Deddf 2014, Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014, Deddf 2013 neu Ddeddf 2004 yn rhoi’r pŵer i dribiwnlys ganiatáu estyniad o’r fath.

Mae rheoliad 5 yn darparu, pan fo cais gan berson o dan Ddeddf 2013 yn ymwneud â mwy nag un llain neu gartref symudol, y caiff y cais gyfeirio at un ddarpariaeth yn unig yn Neddf 2013 ac mai’r nifer mwyaf o leiniau neu gartrefi symudol y caiff unrhyw gais unigol ymwneud â hwy fydd 20.

Mae rheoliad 6 yn rhoi manylion am yr wybodaeth sydd i’w chynnwys gyda chais, ac yn darparu ar gyfer dogfennau ychwanegol ar gyfer ceisiadau penodol, fel y’u nodir yn is-baragraff (2) o bob paragraff o’r Atodlen i’r Rheoliadau.

Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer y gweithdrefnau sy’n gymwys pan drosglwyddir mater sy’n codi o dan Ddeddf 2013 o lys i dribiwnlys.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chydnabod cais sy’n cyrraedd tribiwnlys, ac anfon copïau o’r dogfennau at yr ymatebydd, ynghyd â hysbysiad sy’n pennu’r dyddiad erbyn pryd y dylai’r ymatebydd ateb y tribiwnlys.

Mae rheoliad 9 yn ymdrin ag ateb yr ymatebydd.

Mae rheoliad 10 yn caniatáu i dribiwnlys gynnal gwrandawiad llafar ar fyr rybudd pan fo Awdurdod Tai Lleol wedi gwneud cais am awdurdodi gorchymyn rheoli interim o dan adran 102(4) neu (7) o Ddeddf 2004, a phan fo’n ymddangos i’r tribiwnlys, ar sail yr wybodaeth a gyflwynir gyda’r cais, fod amgylchiadau eithriadol penodedig yn bodoli.

Mae rheoliad 11 yn pennu’r gweithdrefnau ychwanegol sy’n gymwys mewn cysylltiad â chais a wneir o dan baragraff 7(1)(a) o Bennod 2, neu baragraff 40(1)(a) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013, am i dribiwnlys benderfynu pa un a yw cartref symudol, o ystyried ei gyflwr, yn cael effaith andwyol ai peidio ar amwynder y safle gwarchodedig.

Mae rheoliad 12 yn ymdrin â cheisiadau am gael ymuno fel parti i’r achos.

Mae rheoliad 13 yn pennu amgylchiadau pan ganiateir penderfynu ar y cyd ddau neu ragor o geisiadau gwahanol, neu benderfynu ar y cyd faterion penodol sy’n codi mewn ceisiadau gwahanol.

Mae rheoliad 14 yn darparu, pan na fo ffi ar gyfer cais wedi ei thalu o fewn 14 o ddiwrnodau, yr ystyrir bod y cais wedi ei dynnu yn ôl onid oes sail resymol dros beidio â gwneud hynny.

Mae rheoliad 15 yn galluogi cyflawni’r ddyletswydd i gyflenwi dogfen drwy ei chyflenwi i gynrychiolydd parti neu i gynrychiolydd person â buddiant, os gofynnir am hynny mewn ysgrifen.

Mae rheoliad 16 yn ei gwneud yn ofynnol bod tribiwnlys yn sicrhau bod personau â buddiant yn cael eu hysbysu ynglŷn â chais, gydag esboniad o’r weithdrefn ar gyfer gwneud cais i ymuno fel parti yn yr achos.

Mae rheoliad 17 yn ymdrin â dosbarthu dogfennau perthnasol gan dribiwnlys.

Mae rheoliadau 18 a 19 yn ymdrin â phwerau tribiwnlys i orchymyn cyflenwi gwybodaeth a dogfennau, ac â methiant i gydymffurfio â gorchymyn o’r fath.

Mae rheoliad 20 yn galluogi tribiwnlys i benderfynu cais heb gynnal gwrandawiad llafar. Rhaid rhoi rhybudd o 14 o ddiwrnodau o leiaf i’r partïon o’r bwriad i weithredu felly. Mae hawl gan y partïon i ofyn am wrandawiad llafar. Caiff aelod cymwysedig unigol o’r panel benderfynu bod cynnal gwrandawiad llafar yn briodol.

Mae rheoliad 21 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorchmynion interim, ac eithrio wrth benderfynu cais o dan adran 102(4) neu (7) o Ddeddf 2004.

Mae rheoliad 22 yn gwneud darpariaeth weithdrefnol mewn cysylltiad â chyfarwyddydau o dan bŵer cyffredinol tribiwnlys yn adran 230(2) o Ddeddf 2004.

Mae rheoliad 23 yn ymdrin ag arolygu’r fangre.

Mae rheoliad 24 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi tystiolaeth arbenigol gerbron tribiwnlys.

Mae rheoliad 25 yn galluogi tribiwnlys i gynnal cynhadledd rheoli achos (sydd wedi ei diffinio i gynnwys adolygiad cyn treial) ar ôl rhoi rhybudd o ddim llai na 7 niwrnod i’r partïon.

Mae rheoliad 26 yn rhoi manylion am weddill pwerau tribiwnlys o ran rheoli achosion. Mae rheoliad 26(1)(a) yn caniatáu i dribiwnlys gwtogi’r amser a bennir yn y Rheoliadau ar gyfer y gwahanol gamau mewn achos, pan fo’r partïon i gyd yn cytuno i’r cwtogiad sydd dan sylw. Mae rheoliad 26(1)(b) yn caniatáu i dribiwnlys estyn yr amser a bennir yn y Rheoliadau ar gyfer y gwahanol gamau mewn achos.

Mae rheoliad 27 yn ymdrin â rhoi hysbysiad sy’n pennu dyddiad, amser a lleoliad gwrandawiad, a rheoliad 28 yn rhoi pŵer i dribiwnlys ohirio gwrandawiad.

Mae rheoliad 29 yn nodi pwerau tribiwnlys yn ystod gwrandawiad, a rheoliad 30 yn gwneud darpariaeth ynghylch pryd y caniateir cynnal gwrandawiad yn breifat, fel eithriad i’r rheol gyffredinol y dylid ei gynnal yn gyhoeddus.

Mae rheoliad 31 yn nodi pwy sydd â hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat, ac yn ystod trafodaethau’r tribiwnlys wrth iddo benderfynu’r cais.

Mae rheoliad 32 yn galluogi tribiwnlys i fynd ymlaen â gwrandawiad yn absenoldeb parti a fethodd ag ymddangos.

Mae rheoliad 33 yn nodi sut a pha bryd y bydd tribiwnlys yn rhoi ei benderfyniad.

Mae rheoliad 34 yn darparu na chaiff tribiwnlys ddyfarnu costau o dan ei bwerau ym mharagraff 12 o Atodlen 13 i Ddeddf 2004 heb roi cyfle i’r parti dan sylw gyflwyno sylwadau.

Mae rheoliad 35 yn pennu sut y gellir tynnu cais yn ôl, yn rhannol neu’n gyfan gwbl, ac yn pennu’r gofynion y mae’n rhaid eu bodloni mewn amgylchiadau penodol fel bod tynnu cais yn ôl yn cael effaith.

Mae rheoliad 36 yn darparu ar gyfer gorfodi penderfyniad tribiwnlys yn y llys sirol, gyda chaniatâd y llys.

Mae rheoliad 37 yn cynnwys darpariaethau ynglŷn â cheisiadau i dribiwnlys am ganiatâd i apelio i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd).

Mae rheoliad 38 yn ei gwneud yn ofynnol bod tribiwnlys yn gwneud trefniadau priodol os oes angen gwasanaethau cyfieithu, dehongli, neu gymorth arall ar unrhyw berson sy’n cymryd rhan yn yr achos, er mwyn ei alluogi i gyfranogi’n effeithiol yn yr achos.

Mae rheoliad 39 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r hyn sy’n gyfystyr â chyflenwi dogfen neu hysbysiad o dan y Rheoliadau. Mae’r ddarpariaeth yn cynnwys yr amgylchiadau pan fo’n dderbyniol cyfathrebu drwy ffacs, cyfathrebiad electronig neu wasanaeth danfon dogfennau preifat.

Mae rheoliad 40 yn darparu os yw’r amser a bennir yn y Rheoliadau ar gyfer cyflawni unrhyw weithred yn dod i ben ar benwythnos neu ŵyl gyhoeddus, ystyrir y bydd y weithred wedi ei chyflawni mewn pryd os cyflawnir hi ar y diwrnod gwaith nesaf sy’n dilyn.

Mae rheoliad 41 yn rhoi pŵer i dribiwnlys wrthod, yn rhannol neu’n gyfan gwbl, unrhyw gais yr ystyrir ei fod yn wacsaw neu’n flinderus, neu sydd rywfodd arall yn camddefnyddio proses tribiwnlys, ar ôl rhoi rhybudd o 14 o ddiwrnodau o leiaf i’r ceisydd. Mae hefyd yn rhoi’r pŵer i’r tribiwnlys wrthod cais os yw’r ymgeisydd wedi methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a ddyroddwyd gan y tribiwnlys, ar yr amod bod y tribiwnlys yn rhoi cyfle yn gyntaf i’r ymgeisydd gyflwyno sylwadau mewn perthynas â’r gwrthodiad arfaethedig.

Mae rheoliad 42 yn datgan na fydd afreoleidd-dra ar ran y partïon wrth gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, ohono’i hun, yn peri bod achos yn ddi-rym.

Mae rheoliad 43 yn caniatáu atgynhyrchu llofnod gan gyfrifiadur neu drwy ddull mecanyddol arall, ar yr amod yr ychwanegir enw’r person sy’n llofnodi o dan y llofnod, mewn modd sy’n galluogi adnabod y person hwnnw.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau, sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd mewn cysylltiad ag apelau a cheisiadau i dribiwnlysoedd, yn gymwys mewn perthynas ag apelau a cheisiadau o unrhyw un o’r disgrifiadau a bennir yn rheoliadau 44, 45, 46, 47 a 48.

Mae rheoliad 44 yn ei gwneud yn ofynnol talu ffi o £155 pan wneir cais i dribiwnlys o dan unrhyw un o ddarpariaethau Deddf 2004 a restrir yn y rheoliad hwnnw.

Mae rheoliad 45 yn ei gwneud yn ofynnol talu ffi o £155 pan wneir cais i dribiwnlys o dan unrhyw un o ddarpariaethau Deddf 1985 a restrir yn y rheoliad hwnnw.

Mae rheoliad 46 yn ei gwneud yn ofynnol talu ffi pan wneir cais i dribiwnlys o dan unrhyw un o’r darpariaethau yn Neddf 2013 a restrir yn y rheoliad hwnnw. Mae’r ffi sy’n daladwy yn amrywio rhwng £155 a £515.

Mae rheoliadau 47 a 48 yn ei gwneud yn ofynnol talu ffi o £155 pan wneir cais i dribiwnlys o dan unrhyw un o ddarpariaethau Deddf 2014 neu Ddeddf 2015 a restrir yn y rheoliadau hynny.

Mae rheoliad 49 yn gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â thalu ffioedd.

Mae rheoliad 50 yn darparu bod y person sy’n gwneud y cais yn atebol i dalu’r ffi, ac yn darparu ar gyfer hepgor y ffi pan fydd y person hwnnw, neu bartner y person hwnnw, yn cael unrhyw un neu ragor o’r budd-daliadau a restrir yn rheoliad 50(2).

Mae rheoliad 51 yn nodi’r amgylchiadau pan gaiff tribiwnlys orchymyn un o’r partïon i gais i ad-dalu unrhyw ffioedd a dalwyd gan barti arall o dan reoliadau 44, 45, 46, 47 neu 48.

Mae rheoliad 52 yn rhestru’r Rheoliadau a’r Gorchmynion sy’n cael eu dirymu gan y Rheoliadau.

Mae’r Atodlen i’r Rheoliadau yn rhestru ceisiadau y caniateir eu gwneud i dribiwnlys ac yn pennu, mewn cysylltiad â phob math o gais, y dogfennau ychwanegol y mae’n rhaid eu cynnwys gyda’r cais, ac yn nodi’r personau y caniateir eu henwi fel ymatebwyr i’r cais.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.