(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn cynyddu uchafsymiau ac isafsymiau’r taliadau colli cartref sy’n daladwy o dan Ddeddf Digollediad Tir 1973 (“y Ddeddf”) i’r rhai sy’n meddiannu annedd sydd â buddiant perchennog. Mae’r Rheoliadau hyn yn cynyddu hefyd swm y taliad colli cartref sy’n daladwy o dan y Ddeddf mewn unrhyw achos arall.
Mae hawl gan berson a ddadleolir o annedd drwy brynu gorfodol neu o dan amgylchiadau eraill a bennir yn adran 29 o’r Ddeddf i gael taliad colli cartref.
Mewn achosion pan fo gan berson sy’n meddiannu annedd ar ddyddiad y dadleoli fuddiant perchennog, mae adran 30(1) o’r Ddeddf yn darparu bod swm y taliad colli cartref yn cael ei gyfrifo fel canran o werth y buddiant hwnnw ar y farchnad, a hynny’n ddarostyngedig i uchafswm ac isafswm.
Mae adran 30(2) o’r Ddeddf yn pennu swm y taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall.
Mae rheoliad 2(a) o’r Rheoliadau hyn yn cynyddu’r uchafswm sy’n daladwy o dan adran 30(1) o’r Ddeddf o £53,000 i £55,000 ac mae rheoliad 2(b) yn cynyddu’r isafswm o £5,300 i £5,500.
Mae rheoliad 2(c) yn cynyddu’r taliad colli cartref sy’n daladwy, o dan adran 30(2) o’r Ddeddf, mewn unrhyw achos arall o £5,300 i £5,500.
Mae’r symiau diwygiedig yn gymwys pan fo’r dadleoli’n digwydd ar 5 Rhagfyr 2016 neu ar ôl hynny.
Mae rheoliad 3 yn dirymu, gydag arbedion, Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2015.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.