2016 Rhif 1072 (Cy. 257)
Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2016
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 5 Rhagfyr 2016.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Digollediad Tir 1973.
Diwygio symiau rhagnodedig ar gyfer y taliad colli cartref2
Pan fo dyddiad y dadleoli ar 5 Rhagfyr 2016 neu ar ôl hynny—
a
£55,000 yw uchafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf;
b
£5,500 yw isafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf; ac
c
£5,500 yw swm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(2) o’r Ddeddf.
Dirymu ac arbedion3
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 20153 wedi eu dirymu.
2
Bydd y Rheoliadau a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â dadleoli sy’n digwydd cyn 5 Rhagfyr 2016.
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)