RHAN 3Yr isafswm cyflog amaethyddol

Cyfraddau tâl isaf13.

(1)

Yn ddarostyngedig i weithrediad adran 1 o Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 19989, rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr o ran eu gwaith yn ôl cyfradd nad yw’n llai na’r isafswm cyflog amaethyddol.

(2)

Yr isafswm cyflog amaethyddol yw’r gyfradd isaf fesul awr a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4 fel y gyfradd sy’n gymwys i bob gradd o weithiwr amaethyddol, i brentisiaid ac i weithwyr hyblyg.