xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2.—(1) Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 23 Tachwedd 2016.
(2) Yn Rhan 1 (Rheoleiddio tai rhent preifat)—
(a)adran 4 (gofyniad i landlord fod yn gofrestredig);
(b)adran 5 (eithriadau i’r gofyniad i landlord fod yn gofrestredig) at bob diben sy’n weddill;
(c)adran 6 (gofyniad i landlord fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau gosod) at bob diben sy’n weddill;
(d)adran 7 (gofyniad i landlord fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau rheoli eiddo) at bob diben sy’n weddill;
(e)adran 8 (eithriadau i ofynion i landlord fod yn drwyddedig) at bob diben sy’n weddill;
(f)adran 9 (gofyniad i asiantau fod yn drwyddedig i ymgymryd â gwaith gosod);
(g)adran 10 (ystyr gwaith gosod) at bob diben sy’n weddill;
(h)adran 11 (gofyniad i asiantau fod yn drwyddedig i ymgymryd â gwaith rheoli eiddo);
(i)adran 12 (ystyr gwaith rheoli eiddo) at bob diben sy’n weddill;
(j)adran 13 (y drosedd o benodi asiant heb drwydded);
(k)adran 28 (erlyniad gan awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol);
(l)adran 29 (hysbysiadau cosbau penodedig) at bob diben sy’n weddill;
(m)adran 30 (gorchmynion atal rhent);
(n)adran 31 (dirymu gorchmynion atal rhent);
(o)adran 32 (gorchmynion ad-dalu rhent);
(p)adran 33 (gorchmynion ad-dalu rhent: darpariaeth bellach);
(q)adran 34 (pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas ag adrannau 32 a 33) at bob diben sy’n weddill;
(r)adran 35 (troseddau gan gyrff corfforaethol);
(s)adran 40 (cod ymarfer) at bob diben sy’n weddill;
(t)adran 41 (canllawiau) at bob diben sy’n weddill;
(u)adran 42 (cyfarwyddiadau) at bob diben sy’n weddill;
(v)adran 43 (gweithgaredd sy’n groes i’r Rhan hon: effaith ar gytundebau tenantiaeth);
(w)adran 44 (cyfyngiad ar derfynu tenantiaethau); ac
(x)adran 46 (rheoliadau ar ffioedd) at bob diben sy’n weddill.