(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2929 (Cy. 264)), sydd wedi eu diwygio ar sawl achlysur.
Mae’r Rheoliadau yn rheoli cynhyrchu gyda’r bwriad o farchnata, ardystio a marchnata tatws hadyd yng Nghymru, ac eithrio’r rheini a fwriedir ar gyfer eu hallforio y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Maent yn gweithredu amrywiol offerynnau Ewropeaidd, ac yn benodol Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC ar farchnata tatws hadyd (OJ Rhif L 193, 20.07.2002, t. 60).
Mae rheoliad 5 yn gwahardd marchnata unrhyw datws hadyd onid ydynt wedi cael eu hardystio naill ai fel tatws hadyd cyn-sylfaenol, sylfaenol neu ardystiedig, neu onid ydynt wedi cael eu hawdurdodi i’w marchnata at ddibenion gwyddonol neu at waith dethol neu at ddibenion profi a threialu. Ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru rhaid i ardystio, gan gynnwys penderfynu ar y categori a’r radd y mae’n rhaid marchnata’r tatws ynddynt, ddigwydd yn unol â gofynion rheoliad 10.
Mae rheoliadau 8 a 9 yn caniatáu i Weinidogion Cymru awdurdodi marchnata symiau bach o datws hadyd at ddibenion gwyddonol neu waith dethol a thatws hadyd at ddibenion profi a threialu.
Mae rheoliad 12 yn darparu mai mewn pecynnau neu gynwysyddion yn unig y caniateir marchnata tatws hadyd (ac eithrio manwerthiannau symiau bach o datws hadyd sy’n bodloni amodau rheoliad 18). Dim ond os ydynt wedi eu labelu a’u selio (rheoliadau 13 a 14), gyda’r labeli’n dwyn y manylion a bennir yn Atodlen 2, y caniateir marchnata tatws hadyd mewn pecynnau neu gynwysyddion (ac eithrio’r rheini yr awdurdodir eu marchnata at ddibenion gwyddonol neu waith dethol). Rhaid i ddogfennau sy’n mynd gyda thatws hadyd a gafodd eu haddasu’n enetig gynnwys cyfeiriad at y ffaith honno (rheoliad 15).
Mae rheoliad 19 yn darparu ar gyfer cymryd samplau fel rhan o’r broses ardystio neu i sicrhau cydymffurfiaeth â darpariaethau’r Rheoliadau.
Mae rheoliad 21 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru archwilio tatws hadyd a’i gwneud yn ofynnol i datws hadyd a dogfennau perthnasol gael eu cyflwyno.
Mae rheoliad 22 yn caniatáu i Weinidogion Cymru dynnu’n ôl labeli swyddogol neu ddogfennau swyddogol sy’n ymwneud â thatws hadyd y canfyddir nad ydynt yn cydymffurfio â’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau.
Mae mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau yn drosedd o dan adran 16(7)(b) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964 (p. 14) sy’n dwyn atebolrwydd i ddirwy ar euogfarn ddiannod.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.