Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2016
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2016.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Mawrth 2016.
(3)
Diwygio Rheoliadau 20032.
Mae Rheoliadau 2003 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 3.
Arferion cyfrifyddu3.
“25A.Accounting treatment of loans from the Public Works Loan Board drawn down on 2 April 2015
(1)
This regulation applies to loans for the purpose of funding the settlement payment to exit the HRA Subsidy system—
(a)
given to local authorities by the Public Works Loan Board; and
(b)
drawn down on 2 April 2015.
(2)
Where the interest rates applicable to the loans specified in paragraph (1) are agreed at a rate of interest which is other than the prevailing market rate of interest set on 2 April 2015, a local authority is not required to recognise in its revenue account any difference from the prevailing market rate for the purpose of fair value.
(3)
Interest payable on a loan specified in paragraph (1) must be recognised in a local authority revenue account on the day when, or as soon as practicable after, a local authority becomes liable to pay that interest.
(4)
This regulation applies to the financial years beginning on and after 1 April 2015.
(5)
In this regulation—
“fair value” means the price that would be received to sell an asset or paid to transfer a liability in an orderly transaction between market participants at the measurement date, in accordance with proper practices as defined in regulation 25;
“HRA Subsidy” means the system established under section 79 of the Local Government and Housing Act 19893.”
Cyflwynodd Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 fframwaith cyfreithiol y caiff llywodraeth leol ymgymryd â gwariant cyfalaf oddi mewn iddo. Yng Nghymru, caiff Gweinidogion Cymru reoleiddio’r gweithgarwch hwnnw drwy reoliadau. Gwnaed darpariaeth o’r fath gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3239 (Cy. 319)) (“Rheoliadau 2003”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2003 ac maent yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2015 ac wedi hynny.
O dan arferion cyfrifyddu priodol mae’n ofynnol i awdurdodau lleol fesur asedau a rhwymedigaethau ariannol ar sail gwerth teg. Ystyr gwerth teg yw’r pris y byddid yn ei gael wrth werthu ased neu a delid wrth drosglwyddo rhwymedigaeth mewn trafodiad trefnus rhwng cyfranogwyr yn y farchnad ar y dyddiad mesur.
Pan gytunir ar fenthyciad ar sail gwerth sy’n wahanol i’r gwerth teg yna rhaid cydnabod y gwahaniaeth rhwng y swm a fenthyciwyd a’r gwerth teg yng nghyfrif refeniw awdurdod lleol. Mae’r arferion cyfrifyddu priodol yn nodi y gallai methiant i gydnabod y gwahaniaeth rhwng y symiau hynny arwain at gyflwyno barn amodol ar gyfrif refeniw.
Mae’r Rheoliadau hyn yn cael gwared ar y gofyniad i awdurdodau lleol gydnabod, mewn cyfrif refeniw, y gwahaniaeth rhwng gwerth teg a’r gwerth y cytunwyd arno ar gyfer y benthyciadau a gafodd yr awdurdodau lleol hynny yng Nghymru sydd â stoc dai gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (“BBGC”).
Sefydlwyd y system Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai (“CCRT”) yn wreiddiol er mwyn galluogi Llywodraeth y DU i ddynodi pa gymorth ariannol oedd ei angen ar awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr er mwyn rheoli eu tai cyngor. Ym mis Ebrill 2015 ymunodd yr un awdurdod lleol ar ddeg a oedd â stoc dai yng Nghymru â chynllun prynu allan, gan ymadael â’r system CCRT drwy ddefnyddio benthyciadau’r BBGC. Mae prynu allan o’r CCRT yn rhoi rhyddid newydd i awdurdodau lleol yng Nghymru wella tai ac adeiladu tai newydd. Unwaith y bydd darpariaethau perthnasol Deddf Tai (Cymru) 2014 yn dod i rym, bydd y system CCRT yn cael ei diddymu o ran Cymru.
Cafodd y benthyciadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt eu tynnu i lawr ar 2 Ebrill 2015 er mwyn prynu allan o’r CCRT. Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw rwymedigaethau eraill sy’n perthyn i awdurdod lleol.
Yn unol â’r diwygiad a wneir gan reoliad 3, rhaid cydnabod y llog sy’n daladwy ar fenthyciadau’r BBGC yng nghyfrif refeniw awdurdod lleol ar y diwrnod y mae’r awdurdod yn dod yn atebol am y llog hwnnw, neu cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
Ystyriwyd Cod Asesiadau Effaith Rheoleiddiol Gweinidogion Cymru ar Is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o’r Rheoliadau hyn.