(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004 (“y prif Reoliadau”).
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 2 o’r prif Reoliadau i ddarparu diffiniadau pellach yn Rhan 2.
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 4 o’r prif Reoliadau drwy fewnosod gofynion newydd sy’n ymwneud â threfniadau indemniad.
Mae rheoliadau 3 a 5 yn diweddaru cyfeiriadau at Ddeddf yr Heddlu 1997 ac yn gwneud darpariaethau mewn perthynas â gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae rheoliad 3(9) yn estyn cwmpas rheoliad 4(4)(g) o’r prif Reoliadau. Mae rheoliad 4(4)(g) bellach yn dal achosion yn y Deyrnas Unedig ac mewn mannau eraill.
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 4A o’r prif Reoliadau. Mae rheoliad 4 yn diwygio’r wybodaeth y mae’n ofynnol i gyflawnwr sydd eisoes wedi ei restru ar restr cyflawnwyr Corff Gofal Sylfaenol ei darparu. Mae rheoliad 4 hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol.
Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 23A o’r prif Reoliadau ac yn diwygio’r wybodaeth sydd i’w darparu gan ymarferwyr meddygol.
Mae rheoliad 7 yn gwneud mân ddiwygiadau i’r prif Reoliadau ac i’r seiliau dros dynnu enw ymarferydd meddygol yn fandadol gan Fwrdd Iechyd Lleol oddi ar ei restr cyflawnwyr meddygol.
Mae rheoliadau 8 a 9 yn diwygio Rhan 4 o’r prif Reoliadau drwy ddiweddaru cyfeiriadau a diffiniadau.
Mae rheoliad 10 yn diwygio rheoliad 30 o’r prif Reoliadau mewn perthynas â’r wybodaeth benodol y mae rhaid i ddeintyddion ei darparu.
Mae rheoliad 10(4) yn mewnosod rheoliad newydd 30A yn y prif Reoliadau, sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer sut y mae ymarferwyr deintyddol sydd eisoes wedi eu rhestru ar restr cyflawnwyr deintyddol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon i wneud cais i gael eu cynnwys mewn rhestr cyflawnwyr deintyddol yng Nghymru ac sy’n pennu pa wybodaeth sydd i fynd gyda chais o’r fath.
Mae rheoliadau 11 a 12 yn gwneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â hyfforddiant sylfaen deintyddol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.