NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r seithfed gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”).
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn y darpariaethau hynny a restrir yn erthygl 2 i rym ar 23 Tachwedd 2016.
Mae erthygl 2(2) yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o Ran 1 y Ddeddf i rym: adrannau 4, 9, 11, 13, 28, 30 i 33, 35, 43 a 44 a’r darpariaethau a ganlyn at bob diben sy’n weddill: adrannau 5 i 8, 10, 12, 29, 34, 40 i 42 a 46.
Mae paragraff (3) o erthygl 2 yn dwyn adran 75(3) o Ran 2 o’r Ddeddf i rym. Mae paragraff (4) yn dwyn adran 129 o Ran 4 o’r Ddeddf i rym. Mae paragraff (5) yn dwyn adran 131(1), (2), (3) a (4)(a) a (b) o Ran 5 o’r Ddeddf i rym ac mae paragraff (6) yn dwyn adran 138 o Ran 6 o’r Ddeddf i rym.
