Y diwrnod penodedig2.
(1)
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 23 Tachwedd 2016.
(2)
Yn Rhan 1 (Rheoleiddio tai rhent preifat)—
(a)
adran 4 (gofyniad i landlord fod yn gofrestredig);
(b)
adran 5 (eithriadau i’r gofyniad i landlord fod yn gofrestredig) at bob diben sy’n weddill;
(c)
adran 6 (gofyniad i landlord fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau gosod) at bob diben sy’n weddill;
(d)
adran 7 (gofyniad i landlord fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau rheoli eiddo) at bob diben sy’n weddill;
(e)
adran 8 (eithriadau i ofynion i landlord fod yn drwyddedig) at bob diben sy’n weddill;
(f)
adran 9 (gofyniad i asiantau fod yn drwyddedig i ymgymryd â gwaith gosod);
(g)
adran 10 (ystyr gwaith gosod) at bob diben sy’n weddill;
(h)
adran 11 (gofyniad i asiantau fod yn drwyddedig i ymgymryd â gwaith rheoli eiddo);
(i)
adran 12 (ystyr gwaith rheoli eiddo) at bob diben sy’n weddill;
(j)
adran 13 (y drosedd o benodi asiant heb drwydded);
(k)
adran 28 (erlyniad gan awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol);
(l)
adran 29 (hysbysiadau cosbau penodedig) at bob diben sy’n weddill;
(m)
adran 30 (gorchmynion atal rhent);
(n)
adran 31 (dirymu gorchmynion atal rhent);
(o)
adran 32 (gorchmynion ad-dalu rhent);
(p)
adran 33 (gorchmynion ad-dalu rhent: darpariaeth bellach);
(q)
adran 34 (pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas ag adrannau 32 a 33) at bob diben sy’n weddill;
(r)
adran 35 (troseddau gan gyrff corfforaethol);
(s)
adran 40 (cod ymarfer) at bob diben sy’n weddill;
(t)
adran 41 (canllawiau) at bob diben sy’n weddill;
(u)
adran 42 (cyfarwyddiadau) at bob diben sy’n weddill;
(v)
adran 43 (gweithgaredd sy’n groes i’r Rhan hon: effaith ar gytundebau tenantiaeth);
(w)
adran 44 (cyfyngiad ar derfynu tenantiaethau); ac
(x)
adran 46 (rheoliadau ar ffioedd) at bob diben sy’n weddill.
(3)
Yn Rhan 2 o’r Ddeddf (Digartrefedd), adran 75(3) (dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben).
(4)
Yn Rhan 4 o’r Ddeddf (Safonau ar gyfer tai cymdeithasol), adran 129 (cymhwyso dyletswyddau sy’n ymwneud â ffioedd gwasanaeth i denantiaethau awdurdod lleol).
(5)
Yn Rhan 5 o’r Ddeddf (Cyllid tai), adran 131(1), (2), (3), (4)(a) a (b) (diddymu cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai).
(6)
Yn Rhan 6 o’r Ddeddf (Caniatáu i gymdeithasau tai cwbl gydfuddiannol roi tenantiaethau sicr), adran 138 (diwygio Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988).