O dan Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 (p. 25) (“Deddf 2013”), bydd aelodau cyfredol penodol o gynlluniau pensiwn gwasanaethau cyhoeddus yn ymuno â chynlluniau pensiwn newydd (“cynlluniau newydd”) fel aelodau actif, tra’n cadw buddion penodol yn eu cynlluniau pensiwn presennol (“hen gynlluniau”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phensiynau gwasanaethau cyhoeddus i ddiffoddwyr tân yng Nghymru sy’n ganlyniad i ddarpariaethau penodol o Ddeddf 2013 ac i Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 (y dylid darllen y Rheoliadau hyn ar y cyd â hwy).
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn addasu effaith darpariaethau sy’n ymwneud â dewisiadau i gontractio allan o’r pensiwn gwladol ychwanegol o dan Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993 (p. 48) (“Deddf 1993”), ar gyfer aelodau a fydd yn ymuno â chynllun newydd, neu’n trosglwyddo i gynllun newydd yn ystod y cyfnod o 1 Ebrill 2015 i 5 Ebrill 2016 yn gynwysedig. Datgymhwysir rhai o’r gofynion gweithdrefnol penodol yn Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Contractio Allan) 1996 (O.S. 1996/1172) ynglŷn â dewisiad i gontractio allan y cynllun newydd.
Mae Rhan 3 yn addasu effaith darpariaethau eraill yn Neddf 1993 yn y modd y’u cymhwysir i bersonau penodol sy’n ymuno â’r cynllun newydd tra’n aros yn aelodau anghronnol o’r hen gynllun. Caiff yr aelodau hynny eu trin fel pe baent mewn gwasanaeth pensiynadwy sy’n parhau o dan un o’r cynlluniau yn hytrach na’r ddau. Addesir adran 15A o Ddeddf 1993 mewn perthynas â debydau pensiwn. Mae Rhan 4 o Ddeddf 1993 yn ymwneud ag aelodau o gynlluniau pensiwn galwedigaethol sy’n gadael cyn cyrraedd oedran ymddeol. Mae aelodau anghronnol o’r hen gynllun i’w trin fel pe na bai eu gwasanaeth o dan yr hen gynllun yn terfynu, ac fel pe na bai eu cyflogaeth a gontractiwyd allan yn dod i ben, wrth iddynt ymuno â’r cynllun newydd, ond yn hytrach wrth iddynt adael y cynllun newydd. Mae’r addasiadau yn gymwys at ddibenion y buddion a gedwir (Pennod 1 o Ran 4); ailbrisio buddion (Pennod 2); diogelu cynyddiadau mewn lleiafsymiau pensiwn gwarantedig (Pennod 3); a chyfwerthoedd ariannol (Penodau 4). Addesir hefyd rai darpariaethau penodedig yn Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) 1996 (O.S. 1996/1847), a wnaed o dan Bennod 4 o Ran 4 o Ddeddf 1993.
Mae Rhan 4 yn addasu effaith y gyfundrefn drethu pensiynau a gynhwysir yn Neddf Cyllid 2004 (p. 12), ar y ddarpariaeth o bensiynau afiechyd yn y cynllun newydd. Mae’n darparu na fydd unrhyw elfen o bensiwn afiechyd sy’n ymwneud â gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer yr hen gynllun yn cael ei chyfrif yn erbyn lwfans treth blynyddol yr aelod, ac na chaiff unrhyw bensiwn yn yr hen gynllun a ddaw’n daladwy yn ddiweddarach i aelod sydd wedi ymddeol oherwydd afiechyd, ei gyfrif yn erbyn lwfans treth oes yr aelod.
Mae Rhan 5 yn datrys tyndra rhwng y darpariaethau budd gwasanaeth byr a gynhwysir yn Neddf 1993 a’r gofyniad yn adran 10 o Ddeddf 2013, bod oedran pensiwn aelod gohiriedig o’r cynllun newydd (sef yr oedran pensiwn gwladol) yn wahanol i oedran pensiwn aelod actif (sef 60).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.