2015 Rhif 752 (Cy. 59)

Tai, Cymru

Rheoliadau Deddf Tai (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2015

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 144(1) a (2) o Ddeddf Tai (Cymru) 20141.

Enwi a chychwyn1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Tai (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2015 a deuant i rym ar 27 Ebrill 2015.

Diwygio Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Contractio Allan Swyddogaethau Dyrannu Tai a Digartrefedd) 19962

1

Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Contractio Allan Swyddogaethau Dyrannu Tai a Digartrefedd) 19962 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 3 (contractio allan swyddogaethau digartrefedd) ar ôl “Part VII of the Act (homelessness)” mewnosoder “or Chapter 2 of Part 2 of the Housing (Wales) Act 2014 (help for people who are homeless or threatened with homelessness)”.

3

Ar ddiwedd Atodlen 2 mewnosoder “Functions conferred by or under section 95 of the Housing (Wales) Act 2014.”

Lesley GriffithsY Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i erthygl 3 o Orchymyn Awdurdodau Lleol (Contractio Allan Swyddogaethau Dyrannu Tai a Digartrefedd) 1996 (“Gorchymyn 1996”), ac Atodlen 2 iddo. Mae’r diwygiadau hyn yn ganlyniadol ar weithredu Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”).

Mae Gorchymyn 1996 yn darparu bod gan awdurdodau tai lleol bwerau i gontractio allan eu swyddogaethau yn ymwneud â dyrannu tai a digartrefedd, yn ddarostyngedig i eithrio swyddogaethau penodol.

Mae erthygl 3 o Orchymyn 1996 yn darparu y caiff awdurdod tai lleol gontractio allan eu swyddogaethau digartrefedd o dan Ran 7 o Ddeddf Tai 1996 (“Deddf 1996”), ac eithrio’r rheini a restrir yn Atodlen 2 i Orchymyn 1996.

Effaith y Rheoliadau hyn yw diwygio erthygl 3 o Orchymyn 1996 fel bod Pennod 2 o Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn cael ei hychwanegu at y swyddogaethau digartrefedd y caniateir eu contractio allan. Diwygir Atodlen 2 i ychwanegu adran 95 (cydweithredu) o Ddeddf 2014 at y swyddogaethau sydd wedi eu heithrio rhag eu contractio allan. Golyga hyn y bydd awdurdodau tai lleol yn parhau i fod â’r pŵer i gontractio allan eu swyddogaethau digartrefedd ym Mhennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 2014, pan fo mewn grym, oni bai bod y swyddogaeth yn un a restrir yn Atodlen 2 i Orchymyn 1996.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn. Mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â gweithredu Rhan 2 o Ddeddf 2014. Cynhaliwyd asesiad effaith sy’n ymwneud â’r Rhan honno yn ogystal ag asesiad effaith cyffredinol o’r Ddeddf gyfan a gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.