- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
16 Mawrth 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
18 Mawrth 2015
Yn dod i rym
27 Ebrill 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 144(1) a (2) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014(1).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Tai (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2015 a deuant i rym ar 27 Ebrill 2015.
2.—(1) Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Contractio Allan Swyddogaethau Dyrannu Tai a Digartrefedd) 1996(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 3 (contractio allan swyddogaethau digartrefedd) ar ôl “Part VII of the Act (homelessness)” mewnosoder “or Chapter 2 of Part 2 of the Housing (Wales) Act 2014 (help for people who are homeless or threatened with homelessness)”.
(3) Ar ddiwedd Atodlen 2 mewnosoder “Functions conferred by or under section 95 of the Housing (Wales) Act 2014.”
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
16 Mawrth 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i erthygl 3 o Orchymyn Awdurdodau Lleol (Contractio Allan Swyddogaethau Dyrannu Tai a Digartrefedd) 1996 (“Gorchymyn 1996”), ac Atodlen 2 iddo. Mae’r diwygiadau hyn yn ganlyniadol ar weithredu Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”).
Mae Gorchymyn 1996 yn darparu bod gan awdurdodau tai lleol bwerau i gontractio allan eu swyddogaethau yn ymwneud â dyrannu tai a digartrefedd, yn ddarostyngedig i eithrio swyddogaethau penodol.
Mae erthygl 3 o Orchymyn 1996 yn darparu y caiff awdurdod tai lleol gontractio allan eu swyddogaethau digartrefedd o dan Ran 7 o Ddeddf Tai 1996 (“Deddf 1996”), ac eithrio’r rheini a restrir yn Atodlen 2 i Orchymyn 1996.
Effaith y Rheoliadau hyn yw diwygio erthygl 3 o Orchymyn 1996 fel bod Pennod 2 o Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn cael ei hychwanegu at y swyddogaethau digartrefedd y caniateir eu contractio allan. Diwygir Atodlen 2 i ychwanegu adran 95 (cydweithredu) o Ddeddf 2014 at y swyddogaethau sydd wedi eu heithrio rhag eu contractio allan. Golyga hyn y bydd awdurdodau tai lleol yn parhau i fod â’r pŵer i gontractio allan eu swyddogaethau digartrefedd ym Mhennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 2014, pan fo mewn grym, oni bai bod y swyddogaeth yn un a restrir yn Atodlen 2 i Orchymyn 1996.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn. Mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â gweithredu Rhan 2 o Ddeddf 2014. Cynhaliwyd asesiad effaith sy’n ymwneud â’r Rhan honno yn ogystal ag asesiad effaith cyffredinol o’r Ddeddf gyfan a gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: