Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) a Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2015
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) a Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2015.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2015.
(3)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
RHAN 1Symiau at Anghenion Personol
Y symiau y mae eu hangen at anghenion personol2.
Y swm y mae awdurdod lleol i ragdybio bod ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 yw £25.50 bob wythnos.
Dirymu3.
RHAN 2Diwygiadau i’r Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol
Diwygio Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 20114.
(1)
(2)
Yn rheoliad 5 (uchafswm rhesymol y ffi am wasanaeth)—
(a)
ym mharagraff (2) yn lle’r ffigur “£55.00” rhodder y ffigur “£60.00”, a
(b)
ym mharagraff (3) yn lle’r ffigur “£55.00” rhodder y ffigur “£60.00”.
(3)
Mae paragraff (2) o reoliad 5 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Asesu Adnoddau) a Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2014 wedi ei ddirymu.
Diwygio Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 20115.
(1)
(2)
Yn rheoliad 5 (yr uchafswm rhesymol o ad-daliad neu gyfraniad sy’n daladwy)—
(a)
ym mharagraff (1) yn lle’r ffigur “£55.00” rhodder y ffigur “£60.00”, a
(b)
ym mharagraff (2) yn lle’r ffigur “£55.00” rhodder y ffigur “£60.00”.
(3)
Mae paragraff (2) o reoliad 6 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Asesu Adnoddau) a Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2014 wedi ei ddirymu.
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Penderfynu Ffioedd”) a Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol”). Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu rheoliadau 2, 5(2) a 6(2) o Reoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Asesu Adnoddau) a Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2014 (“Rheoliadau 2014”).
Mae adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, wrth asesu gallu person i dalu am lety o dan Ran 3 o’r Ddeddf, ragdybio, yn niffyg anghenion arbennig, fod angen swm rhagnodedig ar berson at ei anghenion personol bob wythnos. Mae rheoliad 2 yn rhagnodi £25.50 fel y swm y mae ei angen at anghenion personol o dan adran 22(4).
Mae rheoliad 3 yn dirymu rheoliad 2 o Reoliadau 2014 a oedd gynt yn rhagnodi’r swm at anghenion personol o dan adran 22(4).
Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau Penderfynu Ffioedd a rheoliad 5 o’r Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol yn rhagnodi yn eu trefn uchafswm rhesymol y ffi am wasanaeth a’r uchafswm rhesymol o ad-daliad neu gyfraniad sy’n daladwy am y gwasanaeth hwnnw. Mae rheoliadau 4(2) a 5(2) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Penderfynu Ffioedd a’r Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol fel y daw yr uchafswm a nodir yn y naill a’r llall o’r Rheoliadau yn £60.00.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyflawni Polisïau ar gyfer Plant ac Oedolion, Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.