xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Rasio Beiciau ar Briffyrdd 1960 (“Rheoliadau 1960”) yn darparu ar gyfer awdurdodi rasio beiciau a threialon cyflymder ar briffyrdd cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr o dan adran 31 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 (“Deddf 1988”).
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 31 o Ddeddf 1988 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 5 ac 8 o Reoliadau 1960 o ran Cymru drwy ddileu’r terfyn penodedig a osodwyd ar nifer y cystadleuwyr a gaiff gymryd rhan mewn ras feiciau, a rhoi yn ei le ofyniad bod hyrwyddwr y ras yn gwneud asesiad risg. Rhaid i’r asesiad risg asesu’r risgiau sy’n deillio o gynnal y ras i iechyd a diogelwch cystadleuwyr, swyddogion y ras, gwylwyr a defnyddwyr eraill y ffordd. Rhaid cyflwyno’r asesiad risg i’r swyddog priodol o’r heddlu heb fod yn llai na 28 o ddiwrnodau cyn dyddiad dechrau’r ras.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud mân newidiadau i’r amodau safonol a osodwyd ar rasys beiciau.
Mae gofyniad newydd hefyd yn cael ei osod ar y swyddog priodol o’r heddlu i ddarparu rhesymau ysgrifenedig i Ffederasiwn Beicio Prydain a hyrwyddwr y ras pan fo amodau wedi eu gosod ar ras feiciau.
Lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.