xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4Cyfrifon pensiwn

PENNOD 1Rhagarweiniol

Disgrifiad o bensiwn

31.  At ddibenion y Rhan hon, ystyr “disgrifiad o bensiwn” (“description of pension”) yw unrhyw un o’r canlynol—

(a)pensiwn enilledig;

(b)pensiwn trosglwyddedig;

(c)pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb;

(d)pensiwn ychwanegol.

PENNOD 2Cyfrifo pensiwn cronedig

Cyfrifo swm pensiwn cronedig at y diben o ohirio neu ymddeol

32.—(1At ddiben cyfrif ymddeol aelod actif sy’n ymddeol neu’n ymddeol yn rhannol, swm y pensiwn cronedig yw swm y pensiwn enilledig cronedig a gyfrifir yn unol â pharagraff (3) a swm y pensiwn ychwanegol cronedig a gyfrifir yn unol â pharagraff (4).

(2At ddiben cyfrif aelod gohiriedig, cyfrifir swm y pensiwn enilledig cronedig yn unol â pharagraff (3).

(3Swm y pensiwn enilledig cronedig yw cyfanswm y symiau canlynol a bennir yng nghyfrif yr aelod actif ar gyfer diwedd y diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy—

(a)swm y balans agoriadol o bensiwn enilledig ar gyfer y flwyddyn gynllun actif olaf a’r addasiad mynegai ar gyfer y balans agoriadol hwnnw;

(b)swm y pensiwn enilledig a gronnodd yn ystod y flwyddyn gynllun actif olaf;

(c)swm y balans agoriadol o bensiwn a drosglwyddwyd (os oes un) ar gyfer y flwyddyn gynllun actif olaf a’r addasiad mynegai ar gyfer y balans agoriadol hwnnw;

(d)swm y pensiwn trosglwyddedig (os oedd un) yn ystod y flwyddyn gynllun actif olaf;

(e)swm y balans agoriadol o bensiwn enilledig trosglwyddiad clwb (os oes un) ar gyfer y flwyddyn gynllun actif olaf a’r addasiad mynegai ar gyfer y balans agoriadol hwnnw; ac

(f)swm y pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb (os oedd un) ar gyfer y flwyddyn gynllun actif olaf.

(4Swm y pensiwn ychwanegol cronedig yw cyfanswm y symiau canlynol a bennir yn y cyfrif pensiwn ychwanegol ar gyfer diwedd y diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy—

(a)swm y balans agoriadol o bensiwn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn gynllun actif olaf a’r addasiad mynegai DPC (os oes un) ar gyfer y balans agoriadol hwnnw; a

(b)swm y pensiwn ychwanegol cronedig ar gyfer y flwyddyn gynllun actif olaf.

PENNOD 3Cyfrifo addasiadau

Cyfrifo “addasiad mynegai ymddeol”

33.—(1Yr addasiad mynegai ymddeol ar gyfer swm o bensiwn enilledig cronedig yw—

ac ystyr “canran mynegai ymddeol”( “retirement index percentage”) yw’r ganran mynegai ymddeol a gyfrifir o dan baragraff (2) ar gyfer pensiwn enilledig cronedig.

(2Y ganran mynegai ymddeol yw—

ac—

  • ystyr A yw—

    (i)

    ar gyfer pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb cronedig, y mynegai ailbrisio mewn-gwasanaeth sy’n gymwys mewn perthynas â’r cynllun hwn ar gyfer y flwyddyn ymadael;

    (ii)

    ar gyfer pensiwn enilledig cronedig ac eithrio pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb, yr addasiad mynegai sy’n gymwys mewn perthynas â’r cynllun hwn ar gyfer y flwyddyn ymadael;

  • B yw nifer y misoedd cyflawn yn y cyfnod rhwng dechrau’r flwyddyn ymadael a diwedd y diwrnod olaf perthnasol.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, mae “mis cyflawn” (“complete month”) yn cynnwys mis anghyflawn sy’n cynnwys 16 diwrnod o leiaf.

Cyfrifo “addasiad mynegai DPC ymddeol”

34.—(1Cyfrifir yr addasiad mynegai DPC ymddeol ar gyfer y swm o bensiwn ychwanegol cronedig yn unol â pharagraff (2).

(2Yr addasiad mynegai DPC ymddeol yw swm y cynnydd y byddid wedi ei wneud o dan DPC 1971 yn y flwyddyn ymadael, yng nghyfradd flynyddol pensiwn o swm sy’n hafal i swm y pensiwn ychwanegol cronedig pe bai—

(a)y pensiwn hwnnw yn gymwys i’w gynyddu felly; a

(b)y diwrnod ar ôl y diwrnod olaf perthnasol yn ddyddiad cychwyn ar gyfer y pensiwn hwnnw.

Penderfynu’r “ychwanegiad oedran”

35.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phob blwyddyn gynllun pan fo cyfrif aelod actif, a chyfrif pensiwn ychwanegol aelod actif, os oes un, ar agor; sy’n flwyddyn gynllun ddiweddarach na’r flwyddyn gynllun pan fo’r aelod yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn; ac nad yw’n flwyddyn gynllun pan sefydlwyd y cyfrif o dan y Rhan hon.

(2Ar ddechrau’r flwyddyn gynllun, ar gyfer pob disgrifiad o bensiwn, rhaid i’r rheolwr cynllun, gan roi sylw i ganllawiau actiwaraidd, benderfynu’r ychwanegiad oedran sydd i’w ddyfarnu ar gyfer y flwyddyn gynllun honno drwy gyfeirio at y balans agoriadol o’r disgrifiad o bensiwn sydd dan sylw ar gyfer y flwyddyn gynllun flaenorol.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “yr ychwanegiad oedran” (“the age addition”) yw swm ychwanegol o bensiwn a benderfynir drwy gyfeirio at y gyfran o’r flwyddyn gynllun flaenorol pan oedd aelod eisoes wedi cyrraedd yr oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn.

Penderfynu’r “ychwanegiad oedran tybiedig”

36.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan sefydlir cyfrif aelod gohiriedig neu gyfrif ymddeol mewn cysylltiad ag aelod nad oes ganddo gyfrif aelod actif mewn cysylltiad â chyflogaeth gynllun arall.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun, gan roi sylw i ganllawiau actiwaraidd, benderfynu’r ychwanegiad oedran tybiedig ar gyfer y swm o bensiwn enilledig cronedig a phensiwn ychwanegol cronedig (os oes un) a bennir yn y cyfrif hwnnw.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “yr ychwanegiad oedran tybiedig” (“the assumed age addition”) yw—

(a)yn achos swm o bensiwn enilledig cronedig nad yw’n briodoladwy i bensiwn a drosglwyddwyd, yr ychwanegiad oedran y byddid wedi ei ddyfarnu ar gyfer pensiwn enilledig cronedig pe na bai’r aelod wedi gadael gwasanaeth pensiynadwy neu wedi arfer yr opsiwn o ymddeol yn rhannol yn y flwyddyn ymadael, a benderfynir drwy gyfeirio at y gyfran o’r flwyddyn ymadael pan oedd yr aelod yn aelod actif o’r cynllun hwn, ac wedi cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn;

(b)yn achos swm o bensiwn enilledig cronedig sy’n briodoladwy i bensiwn a drosglwyddwyd, yr ychwanegiad oedran y byddid wedi ei ddyfarnu ar gyfer pensiwn a drosglwyddwyd pe na bai’r aelod wedi gadael gwasanaeth pensiynadwy neu wedi arfer yr opsiwn o ymddeol yn rhannol yn y flwyddyn ymadael, a benderfynir drwy gyfeirio at y gyfran o’r flwyddyn ymadael pan oedd yr aelod yn aelod actif o’r cynllun hwn, ac wedi cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn;

(c)yn achos swm o bensiwn ychwanegol cronedig, yr ychwanegiad oedran y byddid wedi ei ddyfarnu ar gyfer pensiwn ychwanegol pe na bai’r aelod wedi gadael gwasanaeth pensiynadwy neu wedi arfer yr opsiwn o ymddeol yn rhannol yn y flwyddyn ymadael, a benderfynir drwy gyfeirio at y gyfran o’r flwyddyn ymadael pan oedd yr aelod yn aelod actif o’r cynllun hwn, ac wedi cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn.

PENNOD 4Cyfrifon pensiwn: cyffredinol

Sefydlu cyfrifon pensiwn: cyffredinol

37.—(1Rhaid i’r rheolwr cynllun sefydlu a chynnal un neu ragor o gyfrifon pensiwn ar gyfer pob aelod o’r cynllun hwn yn unol â’r Rhan hon.

(2O ran cyfrif pensiwn—

(a)caniateir ei gadw ym mha bynnag ffurf a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun; a

(b)rhaid iddo bennu’r manylion sy’n ofynnol gan y Rheoliadau hyn.

(3Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at unrhyw swm a bennir mewn cyfrif pensiwn yn gyfeiriadau at y swm y mae’n ofynnol ei bennu felly o dan y Rheoliadau hyn ac nid, os yw’n wahanol, y swm a bennir felly mewn gwirionedd.

Cau ac addasu cyfrifon pensiwn wrth drosglwyddo allan neu wrth ad-dalu balans o gyfraniadau

38.—(1Ac eithrio fel y darperir yn wahanol yn y rheoliad hwn, rhaid i’r rheolwr cynllun gau pob cyfrif pensiwn sy’n ymwneud ag aelod o’r cynllun hwn—

(a)os gwneir taliad trosglwyddo mewn cysylltiad â hawliau cronedig yr aelod o dan y cynllun hwn; neu

(b)os ad-delir holl gyfraniadau’r aelod i’r aelod o dan reoliad 125 (ad-dalu holl gyfraniadau aelod a’r holl daliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol a wnaed gan aelod).

(2Nid yw paragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol bod rheolwr cynllun yn cau cyfrif sy’n cynnwys symiau nad yw’r taliad trosglwyddo yn berthnasol iddynt neu nad yw’n briodoladwy iddynt.

(3Rhaid i gyfrif nas caeir oherwydd paragraff (2) gael ei addasu ym mha bynnag fodd a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun, i adlewyrchu diddymu hawliau o dan y cynllun hwn(1).

(4Nid yw paragraff (1)(a) yn ei gwneud yn ofynnol bod rheolwr cynllun yn cau cyfrif aelod â chredyd pensiwn os gwneir y taliad trosglwyddo mewn cysylltiad ag aelod sydd—

(a)yn aelod â chredyd pensiwn o’r cynllun hwn; a

(b)yn aelod actif, yn aelod gohiriedig neu’n aelod-bensiynwr o’r cynllun hwn.

PENNOD 5Cyfrif aelod actif

Cymhwyso’r Bennod

39.—(1Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas â chyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn.

(2Yn achos person sy’n aelod actif o’r cynllun hwn mewn perthynas â dau neu ragor o gyfnodau di-dor o wasanaeth pensiynadwy yr un pryd, mae’r Bennod hon yn gymwys ar wahân mewn perthyna â phob un o’r cyfnodau hynny o wasanaeth.

Sefydlu cyfrif aelod actif

40.—(1Rhaid i’r rheolwr cynllun sefydlu cyfrif pensiwn ar gyfer aelod sydd mewn gwasanaeth pensiynadwy o’r diwrnod y mae’r aelod yn dechrau mewn gwasanaeth pensiynadwy.

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn, cyfeirir at gyfrif a sefydlwyd o dan baragraff (1) fel cyfrif aelod actif.

Derbyn taliad gwerth trosglwyddiad

41.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os ceir taliad gwerth trosglwyddiad gan gynllun pensiwn arall (ac eithrio cynllun cysylltiedig) mewn perthynas ag aelod actif o’r cynllun hwn.

(2Ar ôl cael y taliad gwerth trosglwyddiad, rhaid i’r rheolwr cynllun gredydu cyfrif yr aelod actif gyda’r swm o bensiwn a drosglwyddwyd, a gyfrifir o dan reoliad 152(2) (swm pensiwn a drosglwyddir).

Derbyn taliad gwerth trosglwyddiad clwb

42.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os ceir taliad gwerth trosglwyddiad clwb gan gynllun clwb arall mewn perthynas ag aelod actif o’r cynllun hwn.

(2Ar ôl cael y taliad gwerth trosglwyddiad clwb, rhaid i’r rheolwr cynllun gredydu cyfrif yr aelod actif gyda’r swm o bensiwn enilledig trosglwyddiad clwb, a gyfrifir o dan reoliad 154(2) (swm pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb).

Swm y pensiwn ar gyfer blwyddyn gynllun

43.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phob blwyddyn gynllun pan fo cyfrif aelod actif ar agor.

(2Rhaid i’r cyfrif aelod actif bennu swm—

(a)y pensiwn enilledig (os oes un) am y flwyddyn gynllun;

(b)y pensiwn trosglwyddedig (os oes un) am y flwyddyn gynllun; ac

(c)y pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb (os oes un), gan bob cynllun sy’n anfon, am y flwyddyn gynllun.

(3Y swm yw—

(a)ar gyfer pensiwn enilledig, 1/61.4fed o’r tâl pensiynadwy a gafodd yr aelod am y flwyddyn honno mewn cysylltiad â’r gyflogaeth gynllun y sefydlwyd cyfrif yr aelod hwnnw ar ei chyfer;

(b)ar gyfer pensiwn enilledig, 1/61.4fed o dâl pensiynadwy tybiedig yr aelod am y flwyddyn gynllun pan fo’r aelod yn talu’r cyfraniadau sy’n ofynnol gan—

(i)paragraffau (3) a (4) o reoliad 120 (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith oherwydd anghydfod undebol neu absenoldeb awdurdodedig di-dâl),

(ii)paragraff (1) o reoliad 121 (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn),

(iii)paragraff (3) o reoliad 122 (cyfraniadau yn ystod absenoldeb cysylltiedig â phlentyn);

(c)ar gyfer pensiwn enilledig, 1/61.4fed o dâl pensiynadwy tybiedig yr aelod yn ystod absenoldeb yr aelod oherwydd salwch neu anaf, am y cyfnod y telir y cyfraniadau mewn cysylltiad ag ef gan yr aelod, sy’n ofynnol gan baragraff (2) o reoliad 120 (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith oherwydd salwch neu anaf);

(d)ar gyfer pensiwn enilledig, 1/61.4fed o dâl pensiynadwy tybiedig yr aelod tra bo’r aelod ar absenoldeb mabwysiadu arferol, absenoldeb mamolaeth arferol neu absenoldeb tadolaeth;

(e)ar gyfer pensiwn trosglwyddedig, y swm y mae gan yr aelod hawl i’w gyfrif o dan reoliad 152(2) (swm pensiwn a drosglwyddir) am y flwyddyn honno; ac

(f)ar gyfer pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb, swm yr holl werthoedd trosglwyddiad clwb a gafwyd mewn perthynas â’r aelod yn ystod y flwyddyn honno fel y’i cyfrifir o dan reoliad 154(2) (swm pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb).

Balans agoriadol, addasiad mynegai ac ychwanegiad oedran

44.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phob blwyddyn gynllun pan fo cyfrif aelod actif ar agor ac eithrio’r flwyddyn gynllun y sefydlwyd y cyfrif hwnnw ynddi.

(2Rhaid i’r cyfrif aelod actif bennu—

(a)balans agoriadol y pensiwn enilledig ar gyfer y flwyddyn gynllun a’r addasiad mynegai ar gyfer y balans agoriadol hwnnw ac, os yw’n gymwys, yr ychwanegiad oedran a ddyfarnwyd ar ddechrau’r flwyddyn gynllun;

(b)balans agoriadol y pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb (os oedd un) ar gyfer y flwyddyn gynllun a’r addasiad mynegai ar gyfer y balans agoriadol hwnnw ac, os yw’n gymwys, yr ychwanegiad oedran a ddyfarnwyd ar ddechrau’r flwyddyn gynllun;

(c)balans agoriadol y pensiwn a drosglwyddwyd (os oedd un) ar gyfer y flwyddyn gynllun a’r addasiad mynegai ar gyfer y balans agoriadol hwnnw ac, os yw’n gymwys, yr ychwanegiad oedran a ddyfarnwyd ar ddechrau’r flwyddyn gynllun.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “balans agoriadol” (“opening balance”) mewn perthynas â disgrifiad o bensiwn, ac eithrio pensiwn ychwanegol, yw—

(a)

yn achos y flwyddyn gynllun sy’n dilyn yn union ar ôl y flwyddyn gynllun y sefydlwyd cyfrif yr aelod actif ynddi, swm y pensiwn hwnnw am y flwyddyn gynllun flaenorol, fel y’i pennid ar ddiwedd y flwyddyn gynllun honno; a

(b)

yn achos unrhyw flwyddyn gynllun ddilynol, cyfanswm y symiau canlynol—

(i)

balans agoriadol y pensiwn hwnnw am y flwyddyn gynllun flaenorol a’r addasiad mynegai ar gyfer y balans agoriadol hwnnw,

(ii)

swm y pensiwn hwnnw am y flwyddyn gynllun flaenorol fel y’i pennid ar ddiwedd y flwyddyn gynllun flaenorol honno, a

(iii)

os yw’n gymwys, yr ychwanegiad oedran a ddyfarnwyd ar ddechrau’r flwyddyn gynllun flaenorol.

Dyfarniad afiechyd sy’n peidio â bod yn daladwy

45.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo dyfarniad afiechyd yn peidio â bod yn daladwy i berson o dan reoliad 78 (canlyniadau adolygu) a’r aelod-bensiynwr yn dychwelyd i wasanaeth pensiynadwy.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun—

(a)cau’r cyfrif ymddeol;

(b)ailsefydlu’r cyfrif aelod actif a’i gredydu â swm hafal i’r gyfradd flynyddol o bensiwn afiechyd haen isaf a oedd yn daladwy pan wnaed y dyfarniad afiechyd gyntaf; ac

(c)gwneud cofnodion yn y cyfrif aelod actif fel pe bai’r aelod, yn ystod y bwlch yn y gwasanaeth pensiynadwy—

(i)wedi bod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn, ond

(ii)heb gael unrhyw dâl pensiynadwy.

Cau ac ailsefydlu cyfrif aelod actif

46.—(1Rhaid i’r rheolwr cynllun gau cyfrif aelod actif mewn perthynas â chyfnod o wasanaeth pan fo’r rheolwr cynllun yn sefydlu, mewn perthynas â’r cyfnod o wasanaeth hwnnw—

(a)cyfrif aelod gohiriedig o dan Bennod 7 (cyfrif aelod gohiriedig); neu

(b)cyfrif ymddeol o dan Bennod 8 (cyfrif ymddeol).

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun ailsefydlu cyfrif aelod actif o dan y Bennod hon os yw’r rheolwr cynllun yn cau cyfrif aelod gohiriedig o dan Bennod 7.

(3Pan fo gan aelod actif fwy nag un cyfrif aelod actif ac yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy mewn cysylltiad â gwasanaeth mewn un cyflogaeth gynllun, a hynny pan nad oedd ganddo wasanaeth cymwys am gyfnod o dri mis mewn cysylltiad â’r cyfrif hwnnw, rhaid cau’r cyfrif aelod actif ar gyfer y gyflogaeth honno, a chyfuno’r buddion sydd yn y cyfrif hwnnw â’r cyfrif aelod actif arall.

(4Os bydd gan yr aelod actif fwy nag un cyfrif aelod actif ar ôl cau’r cyfrif a grybwyllir ym mharagraff (3), caiff yr aelod ddewis y cyfrif aelod actif y mae’r buddion o’r cyfrif a gaeir i’w cyfuno ag ef.

(5Os yw’r aelod actif yn methu â gwneud y dewis a grybwyllir ym mharagraff (4), caiff y rheolwr cynllun ddewis y cyfrif aelod actif y mae’r buddion o’r cyfrif a gaeir i’w cyfuno ag ef.

PENNOD 6Cyfrif pensiwn ychwanegol

Sefydlu cyfrif pensiwn ychwanegol

47.—(1Rhaid sefydlu cyfrif pensiwn ar gyfer pob aelod actif (P) sy’n gwneud dewisiad pensiwn ychwanegol.

(2Os yw P yn aelod actif mewn perthynas â mwy nag un gyflogaeth gynllun, un cyfrif pensiwn ychwanegol yn unig sydd i’w agor.

(3At ddibenion y Rheoliadau hyn, gelwir cyfrif a sefydlwyd o dan baragraff (1) yn gyfrif pensiwn ychwanegol.

Y cyfrif i bennu swm y pensiwn ychwanegol

48.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phob blwyddyn gynllun pan fo dewisiad pensiwn ychwanegol yn cael effaith.

(2Rhaid i’r cyfrif pensiwn ychwanegol bennu, mewn perthynas ag unrhyw daliadau pensiwn ychwanegol a wnaed yn y flwyddyn gynllun dan sylw, swm y pensiwn ychwanegol a benderfynwyd gan y rheolwr cynllun o dan baragraff 11 neu o dan baragraff 14 o Atodlen 1 (taliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol) sydd i’w credydu mewn cysylltiad â’r flwyddyn gynllun honno.

Y cyfrif i bennu’r balans agoriadol a’r addasiad mynegai DPC

49.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phob blwyddyn gynllun pan fo cyfrif pensiwn ychwanegol ar agor, ac eithrio’r flwyddyn gynllun pan sefydlwyd y cyfrif.

(2Rhaid i’r cyfrif bennu—

(a)y balans agoriadol o bensiwn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn gynllun a’r addasiad mynegai DPC ar gyfer y balans agoriadol hwnnw;

(b)os yw’n gymwys, yr ychwanegiad oedran a ddyfarnwyd ar ddechrau’r flwyddyn gynllun.

(3Ystyr “balans agoriadol” (“opening balance”) o bensiwn ychwanegol yw—

(a)yn achos y flwyddyn gynllun sy’n dilyn yn union ar ôl y flwyddyn gynllun y sefydlwyd y cyfrif pensiwn ychwanegol ynddi, swm y pensiwn ychwanegol fel y’i pennid yn y cyfrif ar ddiwedd y flwyddyn gynllun flaenorol; a

(b)yn achos unrhyw flwyddyn gynllun ddilynol, cyfanswm y symiau canlynol—

(i)balans agoriadol y pensiwn ychwanegol am y flwyddyn gynllun flaenorol,

(ii)yr addasiad mynegai DPC (os oes un) ar gyfer y balans agoriadol hwnnw,

(iii)os yw’n gymwys, yr ychwanegiad oedran a ddyfarnwyd ar ddechrau’r flwyddyn gynllun flaenorol, a

(iv)swm y pensiwn ychwanegol am y flwyddyn gynllun flaenorol fel y’i pennid ar ddiwedd y flwyddyn gynllun flaenorol.

Cau a throsglwyddo cyfrif pensiwn ychwanegol

50.—(1Os oes gan aelod actif (P) gyfrif pensiwn ychwanegol, rhaid i’r cyfrif pensiwn ychwanegol barhau ar agor—

(a)hyd nes bo P wedi hawlio pensiwn ymddeol a swm y pensiwn ychwanegol wedi ei drosglwyddo i’r cyfrif ymddeol neu’r cyfrif aelod gohiriedig; neu

(b)hyd nes gwneir taliad gwerth trosglwyddiad mewn cysylltiad â hawliau P i’r pensiwn ychwanegol cronedig; neu

(c)pan fo trosglwyddiad o gofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) wedi ei gwblhau.

(2Pan fo rheolwr cynllun wedi darparu tystysgrif o dan reoliad 155 (gofyniad bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif) mewn cysylltiad â chyfrif pensiwn ychwanegol, rhaid i’r rheolwr cynllun newydd sefydlu cyfrif pensiwn ychwanegol a throsglwyddo’r cofnodion o’r dystysgrif honno i’r cyfrif hwnnw.

Pensiwn afiechyd sy’n peidio â bod yn daladwy

51.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os yw—

(a)pensiwn ychwanegol yn daladwy gyda dyfarniad afiechyd; a

(b)y dyfarniad afiechyd yn peidio â bod yn daladwy o dan reoliad 78 (canlyniadau adolygu).

(2Rhaid i’r cyfrif pensiwn ychwanegol gael ei ailsefydlu a’i gredydu â swm hafal i’r gyfradd flynyddol o bensiwn ychwanegol a dalwyd i’r aelod-bensiynwr yn y flwyddyn gynllun olaf cyn peidio â thalu’r dyfarniad afiechyd i’r aelod.

PENNOD 7Cyfrif aelod gohiriedig

Cymhwyso’r Bennod

52.—(1Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas â chyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn.

(2Yn achos person sy’n aelod gohiriedig o’r cynllun hwn mewn perthynas â dau neu ragor o gyfnodau di-dor o wasanaeth pensiynadwy, mae’r Bennod hon yn gymwys ar wahân mewn perthynas â phob un o’r cyfnodau hynny o wasanaeth.

Sefydlu cyfrif aelod gohiriedig

53.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo aelod actif o’r cynllun hwn yn dod yn aelod gohiriedig o’r cynllun hwn.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun—

(a)cau’r cyfrif aelod actif ar gyfer y cyfnod hwnnw o wasanaeth; a

(b)sefydlu cyfrif pensiwn ar gyfer yr aelod gohiriedig am y cyfnod hwnnw o wasanaeth.

(3At ddibenion y Rheoliadau hyn, gelwir cyfrif a sefydlwyd o dan baragraff (2)(b) yn gyfrif aelod gohiriedig.

Swm dros dro o bensiwn gohiriedig

54.—(1Rhaid i’r cyfrif aelod gohiriedig bennu’r swm dros dro o bensiwn gohiriedig.

(2Y swm dros dro o bensiwn gohiriedig yw cyfanswm y canlynol—

(a)swm y pensiwn enilledig cronedig a gyfrifwyd o dan reoliad 32(3) (cyfrifo swm pensiwn cronedig at y diben o ohirio neu ymddeol) (“swm cronedig”);

(b)yr addasiad mynegai ymddeol ar gyfer y swm cronedig; ac

(c)yr ychwanegiad oedran tybiedig (os oes un) ar gyfer y swm cronedig.

(3Ni chymhwysir yr addasiad mynegai ymddeol mewn perthynas â swm y pensiwn enilledig cronedig os gwnaed taliad trosglwyddo mewn cysylltiad â hawliau’r aelod i’r pensiwn enilledig cronedig hwnnw cyn diwedd y flwyddyn gynllun actif olaf.

(4Mae’r ychwanegiad oedran tybiedig yn gymwys mewn perthynas ag aelod sy’n cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn heb fod yn llai nag un mis cyn y diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy.

Swm y pensiwn gohiriedig ymddeol

55.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo aelod gohiriedig o’r cynllun hwn yn cael yr hawl i daliad o bensiwn ymddeol ar unwaith am gyfnod o wasanaeth.

(2Rhaid i gyfrif yr aelod gohiriedig bennu swm y pensiwn gohiriedig ymddeol.

(3Swm y pensiwn gohiriedig ymddeol yw cyfanswm y canlynol—

(a)swm unrhyw bensiwn ychwanegol cronedig a drosglwyddwyd i gyfrif yr aelod gohiriedig,

(b)yr addasiad mynegai DPC ymddeol ar gyfer y pensiwn ychwanegol cronedig,

(c)yr ychwanegiad oedran tybiedig (os oes un) ar gyfer y pensiwn ychwanegol cronedig, a

(d)y swm dros dro o bensiwn gohiriedig.

(4Ar gyfer swm y pensiwn gohiriedig ymddeol, rhaid i’r cyfrif aelod gohiriedig bennu—

(a)y gostyngiad talu’n gynnar (os oes un);

(b)swm y cymudiad (os oes un); ac

(c)cyfanswm y dyraniad (os oes un).

Addasu cyfrif wedi i daliadau cynnar o bensiwn gohiriedig ddod i ben

56.  Pan fo aelod gohiriedig, sydd wedi cael y taliad cynnar o bensiwn gohiriedig o dan reoliad 76 (talu pensiwn ymddeol yn gynnar i aelod gohiriedig), yn peidio â bod â’r hawl i gael y taliad cynnar o’r pensiwn gohiriedig o dan reoliad 78(7) (canlyniadau adolygu) rhaid i’r rheolwr cynllun wneud yr addasiadau angenrheidiol i gyfrif yr aelod gohiriedig.

Cyfrif a sefydlir ar ôl i ddyfarniad afiechyd beidio â bod yn daladwy

57.  Os yw pensiwn afiechyd haen isaf yn peidio â bod yn daladwy i berson (P) o dan reoliad 78 (canlyniadau adolygu) ac nad yw P yn dychwelyd i wasanaeth pensiynadwy—

(a)rhaid sefydlu cyfrif aelod gohiriedig; a

(b)rhaid credydu’r cyfrif hwnnw gyda swm hafal i’r gyfradd flynyddol o’r pensiwn afiechyd haen isaf a oedd yn daladwy yn union cyn y peidiodd y pensiwn afiechyd haen isaf â bod yn daladwy.

Cau cyfrif aelod gohiriedig ar ôl bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy nad yw’n hwy na phum mlynedd

58.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo aelod gohiriedig o’r cynllun hwn yn dychwelyd i wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn ar ôl bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy nad yw’n hwy na phum mlynedd.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun—

(a)cau’r cyfrif aelod gohiriedig mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw o wasanaeth a thrin y cyfrif aelod gohiriedig fel pe na bai erioed wedi ei sefydlu;

(b)ailsefydlu’r cyfrif aelod actif o dan Bennod 5 mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw o wasanaeth; a

(c)gwneud cofnodion yn y cyfrif aelod actif fel pe bai’r aelod, yn ystod y bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy—

(i)mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn, ond

(ii)heb gael unrhyw dâl pensiynadwy.

(3Os oedd gan yr aelod gohiriedig fwy nag un cyfrif aelod gohiriedig, a agorwyd o fewn pum mlynedd i’r dyddiad ym mharagraff (1), caiff yr aelod, o fewn tri mis i’r dyddiad dychwelyd i gyflogaeth gynllun, ddewis pa gyfrif aelod gohiriedig sydd i’w gau.

(4Os metha’r aelod gohiriedig â gwneud y dewis a grybwyllir ym mharagraff (3), rhaid i’r rheolwr cynllun ddewis pa gyfrif aelod gohiriedig sydd i’w gau.

PENNOD 8Cyfrif ymddeol

Sefydlu cyfrif ymddeol ac addasiadau eraill

59.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn.

(2Pan fo aelod actif o’r cynllun hwn yn cael yr hawl i daliad ar unwaith o bensiwn ymddeol neu ddyfarniad afiechyd, rhaid i’r rheolwr cynllun—

(a)cau’r holl gyfrifon aelod actif ar gyfer yr aelod hwnnw ac unrhyw gyfrif pensiwn ychwanegol; a

(b)sefydlu cyfrif ar gyfer yr aelod-bensiynwr am y cyfnod hwnnw o wasanaeth.

(3Pan fo aelod actif o’r cynllun hwn yn arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad ac yn cael yr hawl o dan reoliad 67(1) (hawlogaeth i bensiwn ymddeol) i daliad ar unwaith o bensiwn ymddeol, rhaid i’r rheolwr cynllun—

(a)cau’r cyfrif aelod actif am y cyfnod o wasanaeth cynharach;

(b)sefydlu cyfrif ar gyfer yr aelod-bensiynwr am y cyfnod hwnnw o wasanaeth cynharach;

(c)cau unrhyw gyfrif pensiwn ychwanegol a throsglwyddo swm y pensiwn ychwanegol cronedig i’r cyfrif ymddeol; a

(d)sefydlu cyfrif aelod actif newydd o dan Bennod 5 ar gyfer gwasanaeth parhaus yr aelod fel pe bai’r diwrnod sy’n dilyn y dyddiad opsiwn yn ddiwrnod cyntaf y gwasanaeth pensiynadwy yn y gyflogaeth gynllun.

(4Pan fo aelod gohiriedig yn cael yr hawl i daliad ar unwaith o bensiwn ymddeol, rhaid i’r rheolwr cynllun—

(a)cau unrhyw gyfrif pensiwn ychwanegol; a

(b)trosglwyddo swm y pensiwn ychwanegol cronedig (os oes un) i gyfrif yr aelod gohiriedig.

(5At ddibenion y Rheoliadau hyn, gelwir cyfrif a sefydlir ar gyfer aelod-bensiynwr o dan baragraff (2)(b) neu (3)(b) yn gyfrif ymddeol.

(6Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cyfnod o wasanaeth cynharach” (“period of earlier service”) yw’r cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy a oedd yn diweddu ar y dyddiad opsiwn;

ystyr “dyddiad opsiwn” (“option date”) yw’r dyddiad yr arferir yr opsiwn o ran-ymddeoliad ac y caiff yr aelod yr hawl i daliad ar unwaith o bensiwn ymddeol; ac

ystyr “gwasanaeth parhaus” (“continuing service”) yw gwasanaeth pensiynadwy sy’n parhau, yn dilyn arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad yn rheoliad 72 (arfer yr opsiwn o ran-ymddeoliad) ar ôl y dyddiad opsiwn.

Y cyfrif i bennu swm y pensiwn ymddeol (aelodau actif)

60.—(1Rhaid i’r cyfrif ymddeol bennu, o ran pensiwn enilledig cronedig a phensiwn ychwanegol cronedig, swm y pensiwn ymddeol hwnnw.

(2Swm y pensiwn enilledig ymddeol yw cyfanswm y canlynol—

(a)swm y pensiwn enilledig cronedig a gyfrifir o dan reoliad 32(3) (cyfrifo swm pensiwn cronedig at y diben o ohirio neu ymddeol) (“swm cronedig”);

(b)yr addasiad mynegai ymddeol ar gyfer y swm cronedig; ac

(c)yr ychwanegiad oedran tybiedig (os oes un) ar gyfer y swm cronedig.

(3Swm unrhyw bensiwn ychwanegol ymddeol yw cyfanswm y canlynol—

(a)swm y pensiwn ychwanegol cronedig a gyfrifir o dan reoliad 32(4) (cyfrifo swm pensiwn cronedig at y diben o ohirio neu ymddeol);

(b)yr addasiad mynegai DPC ymddeol ar gyfer y pensiwn ychwanegol cronedig; ac

(c)yr ychwanegiad oedran tybiedig (os oes un) ar gyfer y pensiwn ychwanegol cronedig.

(4Ar gyfer swm y pensiwn enilledig ymddeol a swm y pensiwn ychwanegol ymddeol, rhaid i’r cyfrif ymddeol bennu’r canlynol—

(a)y gostyngiad talu’n gynnar (os oes un);

(b)swm y cymudiad (os oes un); ac

(c)cyfanswm y dyraniad (os oes un).

(5Mae’r ychwanegiad oedran tybiedig yn gymwys mewn perthynas ag aelod sy’n cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn o leiaf un mis cyn y diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy.

PENNOD 9Cyfrifon pensiwn ar gyfer aelod-oroeswyr

Sefydlu cyfrif aelod-oroeswr

61.—(1Rhaid i’r rheolwr cynllun sefydlu cyfrif pensiwn ar gyfer pob person sydd â hawl i gael pensiwn o dan y cynllun hwn fel partner sy’n goroesi neu blentyn cymwys yn dilyn marwolaeth aelod actif, aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun—

(a)cau’r cyfrif aelod actif neu’r cyfrif aelod gohiriedig neu’r cyfrif ymddeol (yn ôl fel y digwydd) a’r cyfrif pensiwn ychwanegol (os oes un); a

(b)sefydlu cyfrif pensiwn ar gyfer pob aelod-oroeswr.

(3At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)gelwir person sydd â hawl i gael pensiwn yn yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (1) yn aelod-oroeswr; a

(b)gelwir cyfrif a sefydlwyd o dan baragraff (2)(b) yn gyfrif aelod-oroeswr.

Swm y pensiwn sy’n daladwy i aelod-oroeswr

62.  Rhaid credydu cyfrif yr aelod-oroeswr â swm hafal i gyfradd flynyddol y pensiwn sy’n daladwy i’r aelod-oroeswr, a gyfrifir yn unol â’r rheoliad priodol ym Mhennod 2 (pensiynau ar gyfer partneriaid sy’n goroesi) neu Bennod 3 (pensiynau ar gyfer plant cymwys) o Ran 6 (buddion marwolaeth), yn ôl fel y digwydd, sy’n rhoi’r pensiwn i’r aelod-oroeswr.

PENNOD 10Cyfrifon pensiwn ar gyfer aelodau â chredyd pensiwn

Sefydlu cyfrif aelod â chredyd pensiwn

63.—(1Rhaid i’r rheolwr cynllun sefydlu cyfrif pensiwn ar gyfer pob aelod o’r cynllun hwn sydd â chredyd pensiwn.

(2Os oes gan aelod â chredyd pensiwn fwy nag un credyd pensiwn, yn deillio o ddau neu ragor o aelodau â debyd pensiwn, rhaid i’r rheolwr cynllun sefydlu cyfrif aelod â chredyd pensiwn mewn perthynas â phob aelod â debyd pensiwn.

(3Rhaid i’r cyfrif aelod â chredyd pensiwn bennu swm y pensiwn a gredydwyd, ac, ar gyfer y swm hwnnw, swm y cymudiad (os oes un).

(4Pan sefydlir y cyfrif aelod â chredyd pensiwn, rhaid i’r cyfrifon a sefydlwyd o dan y Rhan hon ar gyfer yr aelod â debyd pensiwn gael eu lleihau gan y swm perthnasol.

(5At ddibenion y Rheoliadau hyn, gelwir cyfrif a sefydlir ar gyfer aelod â chredyd pensiwn o dan baragraff (1) yn gyfrif aelod â chredyd pensiwn.

(6Yn y rheoliad hwn—

ystyr “swm perthnasol” (“relevant amount”) yw’r swm a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, gan roi sylw i’r canlynol—

(a)

y cyfwerth ariannol, a fyddai wedi bod yn daladwy o dan Bennod 2 o Ran 4A (gofynion cysylltiedig â budd credyd pensiwn: gwerthoedd trosglwyddiad) o DCauP 1993(2), mewn cysylltiad â hawl yr aelod â chredyd pensiwn i gael buddion o dan y cynllun hwn, sydd i’w priodoli (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) i’r credyd pensiwn; a

(b)

darpariaethau adrannau 29 (creu credydau a debydau pensiwn) ac 31 (lleihau budd) o DDLlPh 1999;

ystyr “swm y pensiwn a gredydwyd” (“amount of credited pension”) yw swm hafal i’r credyd pensiwn a gyfrifir yn unol â rheoliadau a wneir o dan baragraff 5(b) o Atodlen 5 (credydau pensiwn: modd diwallu) i DDLlPh 1999.

Cyfrifon pensiwn eraill

64.  Os yw aelod o’r cynllun hwn sydd â chredyd pensiwn hefyd yn aelod actif, aelod gohiriedig, aelod- bensiynwr neu’n aelod-oroeswr o’r cynllun hwn, rhaid i’r rheolwr cynllun sefydlu cyfrif aelod â chredyd pensiwn yn ychwanegol at unrhyw gyfrif arall a sefydlwyd ar gyfer yr aelod o dan y Rhan hon.

(1)

Mae rheoliad 125 yn darparu ar gyfer diddymu hawliau ar ôl ad-dalu’r holl gyfraniadau a’r holl daliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol a wnaed gan aelod. Mae rheoliad 147 (effaith trosglwyddiadau allan) yn darparu ar gyfer diddymu hawliau ar ôl gwneud taliad trosglwyddo.

(2)

Mewnosodwyd Rhan 4A gan adran 37 o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30).