2015 Rhif 622 (Cy. 50)
Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymru

Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1(1) a (2)(f)1, 2(1), 3(1), (2), (3)(a) ac (c), 4(5) a (6), fel y’u darllenir ar y cyd ag adran 4(1)2, 7(2), 8(1)(a)3, 12(6) a (7), ac 18(5), (5A)4, (6) a (7), o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 20135, a pharagraff 6(b) o Atodlen 2, Atodlen 3 a pharagraffau 20 a 21 o Atodlen 5, i’r Ddeddf honno.

Yn unol ag adran 21 o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y personau hynny y mae’n ymddangos yn debygol i Weinidogion Cymru yr effeithir arnynt gan y Rheoliadau hyn.