xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gwnaed
3 Mawrth 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
6 Mawrth 2015
Yn dod i rym
1 Ebrill 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 125 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2015 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2015.
2. Yn rheoliad 4 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006(2) (cyfrifo ffioedd)—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “£13.00” rhodder “£13.50”;
(b)ym mharagraff (2), yn lle “£42.00” rhodder “£43.00”;
(c)ym mharagraff (3), yn lle “£180.90” rhodder “£185.00”;
(d)ym mharagraff (4), yn lle “£180.90” rhodder “£185.00”; ac
(e)ym mharagraff (5), yn lle “£13.00” rhodder “£13.50”.
3. Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2014(3) wedi eu dirymu.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/491 (Cy.60)) (“Rheoliadau 2006”).
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 2006 (cyfrifo ffioedd) drwy gynyddu’r ffi gymwysadwy sydd i’w thalu am gwrs o driniaeth Band 1, Band 2 a Band 3.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Is-adran Ddeintyddol Cyfarwyddiaeth Iechyd y Cyhoedd, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.