Gorchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) (Diwygio) 2015

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) (Diwygio) 2015 a daw i rym ar 1 Ebrill 2015.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “prif Orchymyn” (“principal Order”) yw Gorchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 2010(1).

Diwygio erthygl 2 o’r prif Orchymyn

2.  Yn erthygl 2 (dehongli) o’r prif Orchymyn—

(a)yn lle’r diffiniad o “ardal CyngorIechyd Cymuned” (“CommunityHealthCouncilarea”) rhodder—

ystyr “ardal Cyngor Iechyd Cymuned” (“Community Health Council area”) yw’r ardal o Gymru y sefydlir Cyngor Iechyd Cymuned ar ei chyfer o dan erthyglau 3 a 3A o’r Gorchymyn hwn;; a

(b)hepgorer diffiniad “y Cynghorau sy’n parhau” (“the continued Councils”).

Sefydlu Cyngor Iechyd Cymuned Powys

3.  Ar ôl erthygl 3 (sefydlu cynghorau iechyd cymuned) o’r prif Orchymyn mewnosoder—

Sefydlu Cyngor Iechyd Cymuned Powys

3A.  Sefydlir Cyngor Iechyd Cymuned Powys yn effeithiol o 1 Ebrill 2015.

Diwygio erthygl 4 o’r prif Orchymyn

4.  Yn erthygl 4(1) (ardaloedd cynghorau iechyd cymuned) o’r prif Orchymyn, ar ôl “ngholofn 2 o Atodlen 1” mewnosoder “a cholofn 2 o Atodlen 1A”.

Swyddogaethau Cyngor Iechyd Cymuned Powys

5.  Ar ôl erthygl 5 (swyddogaethau’r cynghorau newydd) o’r prif Orchymyn mewnosoder—

Swyddogaethau Cyngor Iechyd Cymuned Powys

5A.  Dyma swyddogaethau Cyngor Iechyd Cymuned Powys—

(i)yr hyn a osodir ym mharagraff 1(a) o Atodlen 10 i’r Ddeddf;

(ii)yr hyn a osodir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau a wneir yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 10 i’r Ddeddf; a

(iii)byddant yn cynnwys swyddogaethau cyn Gyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a chyn Gyngor Iechyd Cymuned Maldwyn a drosglwyddir iddo gan erthygl 6A.

Trosglwyddo swyddogaethau, hawliau a rhwymedigaethau i Gyngor Iechyd Cymuned Powys

6.  Ar ôl erthygl 6 (trosglwyddo swyddogaethau, hawliau a rhwymedigaethau i’r cynghorau newydd) o’r prif Orchymyn mewnosoder—

Trosglwyddo swyddogaethau, hawliau a rhwymedigaethau i Gyngor Iechyd Cymuned Powys

6A.(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i unrhyw swyddogaethau neu hawliau oedd yn arferadwy gan gyn Gyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a chyn Gyngor Iechyd Cymuned Maldwyn neu i rwymedigaethau oedd yn orfodadwy yn eu herbyn ar 1 Ebrill 2015 neu cyn hynny.

(2) Mae gan Gyngor Iechyd Cymuned Powys y buddiant o unrhyw swyddogaeth oedd yn arferadwy neu unrhyw hawl oedd yn orfodadwy gan gyn Gyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a chyn Gyngor Iechyd Cymuned Maldwyn ar 1 Ebrill 2015 neu cyn hynny.

(3) Rhaid i Gyngor Cymuned Iechyd Powys gymryd cyfrifoldeb dros unrhyw rwymedigaeth oedd yn orfodadwy yn erbyn cyn Gyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a chyn Gyngor Iechyd Cymuned Maldwyn ar 1 Ebrill 2015 neu cyn hynny.

Darparu Adroddiadau a Chyfrifon cyn Gyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a chyn Gyngor Iechyd Cymuned Maldwyn

7.  Ar ôl erthygl 7 (darparu adroddiadau a chyfrifon cyn gynghorau) o’r prif Orchymyn mewnosoder—

Darparu Adroddiadau a Chyfrifon cyn Gyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a chyn Gyngor Iechyd Cymuned Maldwyn

7A.(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i ddarparu adroddiadau a chyfrifon ar ran cyn Gyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a chyn Gyngor Iechyd Cymuned Maldwyn am y cyfnod o 1 Ebrill 2014 i 31 Mawrth 2015.

(2) Rhaid i Gyngor Iechyd Cymuned Powys gymryd y camau hynny sy’n angenrheidiol i sicrhau bod adroddiadau a chyfrifon cyn Gyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a chyn Gyngor Iechyd Cymuned Maldwyn am y cyfnod 1 Ebrill 2014 i 31 Mawrth 2015 yn cael eu darparu yn unol â rheoliadau 25 a 41 o’r Rheoliadau.

Darparu ar gyfer parhad wrth arfer swyddogaethau gan Gyngor Iechyd Cymuned Powys

8.  Ar ôl erthygl 8 (darparu ar gyfer parhad wrth arfer swyddogaethau) o’r prif Orchymyn mewnosoder—

Darparu ar gyfer parhad wrth arfer swyddogaethau gan Gyngor Iechyd Cymuned Powys

8A.  Bydd unrhyw beth a wnaed gan gyn Gyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a chyn Gyngor Iechyd Cymuned Maldwyn neu mewn perthynas â hwynt wrth arfer swyddogaeth neu mewn cysylltiad â’r swyddogaeth honno sydd yn rhinwedd erthygl 6A o’r Gorchymyn hwn yn dod yn swyddogaeth i Gyngor Iechyd Cymuned Powys yn cael effaith, i’r graddau y mae hynny’n angenrheidiol i barhau ei effaith ar 1 Ebrill 2015 ac wedi hynny, megis petai wedi ei wneud gan Gyngor Iechyd Cymuned Powys neu mewn perthynas ag ef.

Diddymiadau

9.  Ar ôl erthygl 9 (diddymiadau) o’r prif Orchymyn mewnosoder—

Diddymu Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn

9A.  Diddymir Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn gydag effaith o 1 Ebrill 2015.

Diwygio erthygl 10 o’r prif Orchymyn

10.  Hepgorer erthygl 10 (Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn i barhau mewn bodolaeth) o’r prif Orchymyn.

Diwygio erthygl 11 o’r prif Orchymyn

11.  Hepgorer erthygl 11 (swyddogaethau’r cynghorau sy’n parhau) o’r prif Orchymyn.

Ardal Bwrdd Iechyd Lleol Cyngor Iechyd Cymuned Powys

12.  Ar ôl Atodlen 1 i’r prif Orchymyn mewnosoder—

Erthyglau 3A a 4

ATODLEN 1AYr Ardal Bwrdd Iechyd Lleol y sefydlir Cyngor Iechyd Cymuned Powys ar ei Chyfer

Colofn 1Colofn 2
Enw’r Cyngor Iechyd Cymuned a sefydlir o dan erthygl 3AArdal Bwrdd Iechyd Lleol y sefydlir y Cyngor Iechyd Cymuned ar ei chyfer
1Cyngor Iechyd Cymuned PowysBwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys

Diwygio Atodlen 3 i’r prif Orchymyn

13.  Hepgorer Atodlen 3 (ardaloedd o fewn prif ardal llywodraeth leol Powys (yr ardal y sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys ar ei chyfer) y sefydlir y Cynghorau sy’n parhau ar eu cyfer ac y maent yn arfer eu swyddogaethau drostynt) i’r prif Orchymyn.

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

3 Mawrth 2015