(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Cafodd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ei ail-enwi yn ‘Gyngor y Gweithlu Addysg’ (“y Cyngor”) gan adran 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”).
Mae adrannau 17 a 19 o Ddeddf 2014 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r gofyniad bod athrawon ysgol yn ymgymryd â chyfnod sefydlu.
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”), fel y’u diwygiwyd. Ailddeddfir darpariaethau Rheoliadau 2005, ond disodlwyd y cyfeiriadau at y Cyngor Addysgu Cyffredinol gan gyfeiriadau at Gyngor y Gweithlu Addysg.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni thybiwyd bod angen llunio asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.