2015 No. 44 (Cy. 3)

Y Dreth Gyngor, Cymru

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2015

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2))

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19921, a pharagraffau 2 i 7 o Atodlen 1B iddi.

Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.