xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 16 Ionawr 2015

2.  Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2014 ddod i rym yw 16 Ionawr 2015—

(a)adran 2 (Cyngor y Gweithlu Addysg) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau neu orchmynion o dan Ddeddf 2014;

(b)adran 5 (y pŵer i ychwanegu swyddogaethau);

(c)adran 9(1) a (3) (cofrestr) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau neu orchmynion o dan Ddeddf 2014;

(d)adran 10 (cymhwystra ar gyfer cofrestru);

(e)adran 12 (ffioedd cofrestru);

(f)adran 13 (cofrestru: darpariaeth bellach);

(g)adran 14 (athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion) i’r graddau y mae’n gymwys i athrawon ysgol;

(h)adran 15 (athrawon addysg bellach);

(i)adran 17 (gofyniad i ymgymryd â chyfnod sefydlu);

(j)adran 18 (safonau er mwyn asesu’r cyfnod sefydlu) i’r graddau y mae’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 17 o Ddeddf 2014;

(k)adran 19 (apelau yn erbyn penderfyniadau sefydlu) i’r graddau y mae’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(l)adran 21 (sefydlu: dehongli);

(m)adran 24 (cod ymddygiad ac ymarfer) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(n)adran 25 (cod ymddygiad ac ymarfer: darpariaeth bellach);

(o)adran 26 (swyddogaethau disgyblu);

(p)adran 27 (swyddogaethau disgyblu: dehongli);

(q)adran 28 (swyddogaethau disgyblu: darpariaeth bellach);

(r)adran 29 (gorchmynion cofrestru amodol) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(s)adran 30 (gorchmynion atal dros dro) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(t)adran 31 (gorchmynion gwahardd) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(u)adran 33 (y Cyngor i gynnal cofnodion ynghylch personau penodol);

(v)adran 35 (rhoi gwybodaeth: y Cyngor);

(w)adran 36 (rhoi gwybodaeth: cyflogwyr);

(x)adran 37 (rhoi gwybodaeth: asiantwyr a chontractwyr);

(y)adran 41 (dehongli Rhan 2);

(z)rhes gyntaf a thrydedd res llinell Tabl 1 ym mharagraff 1 a pharagraff 3 o Atodlen 2 (categorïau cofrestru), ac

(aa)Atodlen 4 (mynegai o eiriau ac ymadroddion wedi eu diffinio).