(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r trydydd gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”).
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn y darpariaethau a ganlyn i rym ar 16 Ionawr 2015—
(a)adran 2 (Cyngor y Gweithlu Addysg) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau neu orchmynion o dan Ddeddf 2014;
(b)adran 5 (y pŵer i ychwanegu swyddogaethau);
(c)adran 9(1) a (3) (cofrestr) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau neu orchmynion o dan Ddeddf 2014;
(d)adran 10 (cymhwystra ar gyfer cofrestru);
(e)adran 12 (ffioedd cofrestru);
(f)adran 13 (cofrestru: darpariaeth bellach);
(g)adran 14 (athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion) i’r graddau y mae’n gymwys i athrawon ysgol;
(h)adran 15 (athrawon addysg bellach);
(i)adran 17 (gofyniad i ymgymryd â chyfnod sefydlu);
(j)adran 18 (safonau er mwyn asesu’r cyfnod sefydlu) i’r graddau y mae’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 17 o Ddeddf 2014;
(k)adran 19 (apelau yn erbyn penderfyniadau sefydlu) i’r graddau y mae’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
(l)adran 21 (sefydlu: dehongli);
(m)adran 24 (cod ymddygiad ac ymarfer) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
(n)adran 25 (cod ymddygiad ac ymarfer: darpariaeth bellach);
(o)adran 26 (swyddogaethau disgyblu);
(p)adran 27 (swyddogaethau disgyblu: dehongli);
(q)adran 28 (swyddogaethau disgyblu: darpariaeth bellach);
(r)adran 29 (gorchmynion cofrestru amodol) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
(s)adran 30 (gorchmynion atal dros dro) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
(t)adran 31 (gorchmynion gwahardd) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
(u)adran 33 (y Cyngor i gynnal cofnodion ynghylch personau penodol);
(v)adran 35 (rhoi gwybodaeth: y Cyngor);
(w)adran 36 (rhoi gwybodaeth: cyflogwyr);
(x)adran 37 (rhoi gwybodaeth: asiantwyr a chontractwyr);
(y)adran 41 (dehongli Rhan 2);
(z)rhes gyntaf a thrydedd res Tabl 1 ym mharagraff 1 a pharagraff 3 o Atodlen 2 (categorïau cofrestru), ac
(aa)Atodlen 4 (mynegai o eiriau ac ymadroddion wedi eu diffinio).
Daw’r Gorchymyn hwn a’r darpariaethau a ganlyn i rym ar 1 Ebrill 2015—
(a)adran 2 (Cyngor y Gweithlu Addysg) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b)adran 3 (nodau’r Cyngor);
(c)adran 4 (swyddogaethau’r Cyngor);
(d)adran 6 (cyfarwyddiadau);
(e)adrannau 7 ac 8 (darparu cyngor gan y Cyngor a hybu gyrfaoedd);
(f)adran 9 (cofrestr) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(g)adran 11 (apelau yn erbyn gwrthod cais i gofrestru);
(h)adran 18 (safonau ar gyfer asesu’r cyfnod sefydlu);
(i)adran 19 (apelau yn erbyn penderfyniadau sefydlu) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(j)adran 20 (sefydlu: pwerau ymyrryd);
(k)adran 22 (darpariaeth arbennig ar gyfer ysgolion a gynhelir sydd â chyllidebau dirprwyedig);
(l)adran 24 (cod ymddygiad ac ymarfer);
(m)adran 29 (gorchmynion cofrestru amodol);
(n)adran 30 (gorchmynion atal dros dro);
(o)adran 31 (gorchmynion gwahardd);
(p)adran 32 (apelau yn erbyn gorchmynion disgyblu);
(q)adran 34 (rhoi gwybodaeth: Gweinidogion);
(r)adran 38 (cyfarwyddiadau i sicrhau cydymffurfedd â dyletswyddau o ran gwybodaeth);
(s)adrannau 39 a 40 (darpariaeth drosiannol a darfodol);
(t)adran 48 (mân ddiwygiadau a diddymiadau a diwygiadau a diddymiadau canlyniadol);
(u)Atodlen 1 (Cyngor y Gweithlu Addysg) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(v)paragraff 2 o Atodlen 2 (categorïau cofrestru);
(w)paragraffau 1(1), 1(2), (4), (5) a (6) a 2 o Ran 1 o Atodlen 3 (newidiadau i ddeddfwriaeth arall); ac
(x)Rhan 2 o Atodlen 3 (newidiadau i ddeddfwriaeth arall) ac eithrio diddymu adran 131(7) o Ddeddf Addysg 2002.
Mae erthygl 4 yn cynnwys darpariaethau arbed a throsiannol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.