Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adrannau 12A(4) a (5) a 12B(5) a (6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a deuant i rym ar 31 Ionawr 2016.
Mae adran 11(2)(a) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“y Ddeddf”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer disgownt treth gyngor pan na fo gan annedd unrhyw breswylydd. Mae adrannau 12A a 12B o’r Ddeddf (a fewnosodwyd gan adran 139 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014) yn galluogi awdurdodau bilio (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol), o dan amgylchiadau penodol, i ddatgymhwyso’r disgownt a chymhwyso swm uwch o ran treth gyngor.
O dan adran 12A o’r Ddeddf caiff awdurdodau bilio gymhwyso’r swm uwch i anheddau gwag hirdymor. Mae annedd yn “annedd wag hirdymor” os yw wedi bod heb ei meddiannu ac i raddau helaeth heb ei dodrefnu am gyfnod parhaus o un flwyddyn o leiaf (adran 12A(11)). O dan adran 12B caiff awdurdodau bilio gymhwyso’r swm uwch i anheddau a feddiennir yn gyfnodol pan fo amodau penodol yn gymwys. Yr amodau hynny yw nad oes gan yr annedd unrhyw breswylydd a bod yr annedd wedi ei dodrefnu i raddau helaeth (adran 12B(2)).
Yn y naill achos a’r llall caiff yr awdurdod bilio benderfynu bod swm y dreth gyngor sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r anheddau i’w gynyddu hyd at 100%. Mewn cysylltiad â chartrefi gwag hirdymor, caiff yr awdurdod bilio bennu canrannau gwahanol ar gyfer anheddau gwahanol ar sail hyd yr amser y maent wedi bod yn wag.
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r dosbarthau ar annedd na chaniateir i awdurdod bilio wneud penderfyniad mewn perthynas â hwy i gymhwyso swm uwch o ran treth gyngor.
Mae rheoliadau 4, 5, 6 a 7 yn rhagnodi dosbarthau ar annedd at ddibenion adran 12A(4) (anheddau gwag hirdymor) ac adran 12B(5) (anheddau a feddiennir yn gyfnodol).
Mae rheoliadau 4 a 5 (Dosbarth 1 a 2) yn eithrio, am gyfnod hwyaf o un flwyddyn, anheddau sydd ar y farchnad i’w gwerthu neu i’w gosod. Pan fo annedd wedi elwa ar eithriad o dan Ddosbarth 1 ni fydd hawl iddi gael cyfnod eithrio pellach hyd nes y bydd yr annedd wedi ei gwerthu. Pan fo annedd wedi elwa ar eithriad o dan Ddosbarth 2, ni fydd yn gymwys i gael cyfnod eithrio pellach onid yw wedi bod yn ddarostyngedig i denantiaeth a roddwyd am dymor o chwe mis neu fwy.
Mae rheoliad 6 (Dosbarth 3) yn eithrio rhag y swm uwch anecsau sy’n cael eu defnyddio fel rhan o’r brif breswylfa neu annedd. Mae’r eithriad yn rheoliad 7 (Dosbarth 4) yn gymwys i annedd a fyddai’n unig neu brif breswylfa person ond sydd heb ei meddiannu oherwydd bod y person hwnnw’n preswylio mewn llety’r lluoedd arfog.
Mae rheoliadau 8, 9 a 10 yn rhagnodi dosbarthau ar annedd at ddiben adran 12B(5) (anheddau a feddiennir yn gyfnodol).
Mae’r eithriad yn rheoliad 8 (Dosbarth 5) yn eithrio lleiniau a feddiennir gan garafannau ac angorfeydd a feddiennir gan gychod. Mae rheoliad 9 (Dosbarth 6) yn gymwys i anheddau y mae eu meddiannu wedi ei gyfyngu gan amod cynllunio sy’n atal meddiannaeth am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau o leiaf mewn blwyddyn. Bydd y dosbarth hwn yn cynnwys cartrefi neu gabanau gwyliau pwrpasol sy’n ddarostyngedig i amod cynllunio sy’n cyfyngu ar feddiannaeth gydol y flwyddyn. Mae’r eithriad yn rheoliad 10 (Dosbarth 7) yn gymwys i anheddau cysylltiedig â swydd ac anheddau a feddiennir yn gyfnodol pan fo’r preswylydd arferol yn preswylio mewn llety cysylltiedig â swydd. Mae ystyr “anheddau cysylltiedig â swydd” wedi ei roi yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.