xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r pumed gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”).
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 139 o’r Ddeddf. Mae adran 139 yn diwygio Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) drwy fewnosod adrannau 12A a 12B a gwneud diwygiadau canlyniadol eraill iddi.
Mae adran 12A newydd o Ddeddf 1992 yn rhoi i awdurdodau bilio yng Nghymru (sef y cynghorau sir a’r cynghorau bwrdeistref sirol) ddisgresiwn i godi’r dreth gyngor sy’n daladwy ar anheddau gwag hirdymor yn eu hardaloedd. Mae adran 12B newydd o Ddeddf 1992 yn rhoi i awdurdodau bilio yng Nghymru ddisgresiwn i godi’r dreth gyngor sy’n daladwy ar anheddau sy’n cael eu meddiannu o bryd i’w gilydd yn eu hardaloedd (gelwir yr anheddau hyn yn aml yn “ail gartrefi”). Mae uchafswm y codiad yn 100% ychwanegol o ffi safonol y dreth gyngor.
Dygir adran 139 o’r Ddeddf i rym ar y diwrnod wedi’r diwrnod y gwneir y gorchymyn hwn (yn ddarostyngedig i erthygl 2(2)). Bydd awdurdodau bilio yn gallu gwneud penderfyniad i godi swm uwch o’r dreth gyngor o dan adran 12A a 12B o Ddeddf 1992 o’r dyddiad hwnnw ond dim ond mewn perthynas â blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017.
Effaith erthygl 2(2) o’r Gorchymyn yw, wrth ddyfarnu a yw annedd yn annedd wag hirdymor o dan adran 12A(12) o Ddeddf 1992, rhaid peidio ag ystyried unrhyw gyfnod cyn 1af Ebrill 2016.
Rhaid i awdurdod bilio wneud ei ddyfarniad cyntaf o dan adran 12B o Ddeddf 1992 o leiaf blwyddyn cyn y flwyddyn ariannol y mae’n berthnasol iddi. Bydd awdurdodau bilio, felly, yn gallu penderfynu codi swm uwch o’r dreth gyngor mewn perthynas ag ail gartrefi o dan adran 12B o Ddeddf 1992 ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017.
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn galluogi i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan adran 12A(4) a 12B(5) o Ddeddf 1992 a dyroddi canllawiau o dan adran 12A(3) a 12B(4) o Ddeddf 1992. Mae hefyd yn dwyn i rym Rhan 4 o Atodlen 3 i’r Ddeddf sy’n gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf 1992.