2015 Rhif 2046 (Cy. 310) (C. 127)

Y Dreth Gyngor, Cymru

Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 5) 2015

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 145(3) a (4) o Ddeddf Tai (Cymru) 20141.

Enwi a dehongli1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 5) 2015.

2

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “y Ddeddf” (“theAct”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014;

  • ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 19922.

Diwrnodau penodedig2

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw’r diwrnod wedi’r diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn—

a

adran 139 (swm y dreth sy’n daladwy ar gyfer mathau penodol o anheddau);

b

Rhan 4 o Atodlen 3 (y dreth gyngor ar gyfer mathau penodol o anheddau).

2

At ddibenion adran 12A(12) o Ddeddf 1992, y diwrnod penodedig i adran 139 o’r Ddeddf ddod i rym i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 12A o Ddeddf 1992, yw 1 Ebrill 20163.

Leighton AndrewsY Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Hwn yw’r pumed gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”).

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 139 o’r Ddeddf. Mae adran 139 yn diwygio Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) drwy fewnosod adrannau 12A a 12B a gwneud diwygiadau canlyniadol eraill iddi.

Mae adran 12A newydd o Ddeddf 1992 yn rhoi i awdurdodau bilio yng Nghymru (sef y cynghorau sir a’r cynghorau bwrdeistref sirol) ddisgresiwn i godi’r dreth gyngor sy’n daladwy ar anheddau gwag hirdymor yn eu hardaloedd. Mae adran 12B newydd o Ddeddf 1992 yn rhoi i awdurdodau bilio yng Nghymru ddisgresiwn i godi’r dreth gyngor sy’n daladwy ar anheddau sy’n cael eu meddiannu o bryd i’w gilydd yn eu hardaloedd (gelwir yr anheddau hyn yn aml yn “ail gartrefi”). Mae uchafswm y codiad yn 100% ychwanegol o ffi safonol y dreth gyngor.

Dygir adran 139 o’r Ddeddf i rym ar y diwrnod wedi’r diwrnod y gwneir y gorchymyn hwn (yn ddarostyngedig i erthygl 2(2)). Bydd awdurdodau bilio yn gallu gwneud penderfyniad i godi swm uwch o’r dreth gyngor o dan adran 12A a 12B o Ddeddf 1992 o’r dyddiad hwnnw ond dim ond mewn perthynas â blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017.

Effaith erthygl 2(2) o’r Gorchymyn yw, wrth ddyfarnu a yw annedd yn annedd wag hirdymor o dan adran 12A(12) o Ddeddf 1992, rhaid peidio ag ystyried unrhyw gyfnod cyn 1af Ebrill 2016.

Rhaid i awdurdod bilio wneud ei ddyfarniad cyntaf o dan adran 12B o Ddeddf 1992 o leiaf blwyddyn cyn y flwyddyn ariannol y mae’n berthnasol iddi. Bydd awdurdodau bilio, felly, yn gallu penderfynu codi swm uwch o’r dreth gyngor mewn perthynas ag ail gartrefi o dan adran 12B o Ddeddf 1992 ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn galluogi i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan adran 12A(4) a 12B(5) o Ddeddf 1992 a dyroddi canllawiau o dan adran 12A(3) a 12B(4) o Ddeddf 1992. Mae hefyd yn dwyn i rym Rhan 4 o Atodlen 3 i’r Ddeddf sy’n gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf 1992.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau canlynol yn y Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Cymru i’r graddau a nodir isod drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 1

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 2 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 2 (at y dibenion sy’n weddill)

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 3 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 3 (at y dibenion sy’n weddill)

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 5 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 6 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 7 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 8 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 10 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 12 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 14 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 14 (at y dibenion sy’n weddill)

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 15 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 15 (at y dibenion sy’n weddill)

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 16 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 16 (at y dibenion sy’n weddill)

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 17

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 18

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 19 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 19 (at y dibenion sy’n weddill)

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 20 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 20 (at y dibenion sy’n weddill)

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 21 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 21 (at y dibenion sy’n weddill)

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 22

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 23 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 23 (at y dibenion sy’n weddill)

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 24

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 25

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 26

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 27

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 29 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 34 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 36

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 37

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 38

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 39

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 40 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 41 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 42 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 45

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 46 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 47

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 48

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 49 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 49 (at y dibenion sy’n weddill)

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Adran 50 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 50 (at y dibenion sy’n weddill)

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 51 i 56

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 57 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 57 (at y dibenion sy’n weddill)

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 58

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 59 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 59 (at y dibenion sy’n weddill)

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 60 i 63

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 64 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 64 (at y dibenion sy’n weddill)

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 65 i 71

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 72 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 72 (at y dibenion sy’n weddill)

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 88 and 74

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 75(1), (2) and (4)

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 76 and 77

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 78 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 78(2) (yn rhannol)

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 78 (at y dibenion sy’n weddill)

1 Gorffennaf 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 79

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 80 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 80 (at y dibenion sy’n weddill)

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 81 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 81 (at y dibenion sy’n weddill)

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 82 i 85

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 86 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 86 (at y dibenion sy’n weddill)

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 87 i 94

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 95 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 95 (at y dibenion sy’n weddill)

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 96 and 97

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 98 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 98 (at y dibenion sy’n weddill)

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 99 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 99 (at y dibenion sy’n weddill)

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 100

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Adran 101

25 Chwefror 2015

2015/380 (Cy. 39)

Adran 102

25 Chwefror 2015

2015/380 (Cy. 39)

Adran 105

25 Chwefror 2015

2015/380 (Cy. 39)

Adran 106 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 106 (at y dibenion sy’n weddill)

25 Chwefror 2015

2015/380 (Cy. 39)

Adran 107

25 Chwefror 2015

2015/380 (Cy. 39)

Adran 108

25 Chwefror 2015

2015/380 (Cy. 39)

Adran 109

25 Chwefror 2015

2015/380 (Cy. 39)

Adran 110

25 Chwefror 2015

2015/380 (Cy. 39)

Adran 111 i 128

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 130 a Rhan 3 o Atodlen 3

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 131(4)(c)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 137

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 140

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 141 a Rhan 5 o Atodlen 3

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Adran 144

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Atodlen 1

23 Tachwedd 2015

2015/1826 (Cy. 266)

Paragraff 1 o Atodlen 2 (yn rhannol)

1 Rhagfyr 2014

2014/3127 (Cy. 316)

Atodlen 2 (at y dibenion sy’n weddill)

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Rhan 1 o Atodlen 3

27 Ebrill 2015

2015/1272 (Cy. 88)

Rhan 2 o Atodlen 3

25 Chwefror 2015

2015/380 (Cy. 39)

Gweler hefyd adran 145(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ac adran 145(2) ar gyfer y darpariaethau hynny a ddaeth i rym 2 fis ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol.