YR ATODLEN
ATODLEN 5Daliadau a randdirymwyd
1
Mae’r gofynion ychwanegol a ganlyn yn gymwys i ddaliadau a randdirymwyd.
Cyflwyniad2
Yn yr Atodlen hon ystyr “y meddiannydd” yw “meddiannydd daliad a randdirymwyd”
Rhanddirymiad oddi wrth y mesurau sy’n llywodraethu’r terfyn ar ddodi tail da byw3
Rhaid i feddiannydd daliad a randdirymwyd sicrhau yn unrhyw flwyddyn galendr y rhoddwyd rhanddirymiad ynglŷn â hi bod—
lle—
A yw ardal y daliad a randdirymwyd (hectarau), fel y mae ar 1 Ionawr ar gyfer y flwyddyn galendr honno;
Ngl yw cyfanswm y nitrogen (cilogramau) mewn tail da byw gan dda byw sy’n pori, p’un a ddodir ef yn uniongyrchol gan anifail neu wrth ei daenu;
Nngl yw cyfanswm y nitrogen (cilogramau) mewn tail da byw gan dda byw nad ydynt yn pori, p’un a ddodir ef yn uniongyrchol gan anifail neu wrth ei daenu.
Cynllunio’r modd y mae gwrtaith ffosffad yn cael ei daenu4
1
Yn ychwanegol at lunio cynlluniau ynghylch taenu nitrogen o dan reoliad 14 (cynllunio’r modd y mae gwrtaith nitrogen yn cael ei daenu) rhaid i’r meddiannydd—
a
asesu faint o ffosfforws yn y pridd sy’n debygol o fod ar gael i’w amsugno gan y cnwd yn ystod y tymor tyfu (“y cyflenwad ffosfforws yn y pridd”);
b
cyfrifo’r maint gorau posibl o wrtaith ffosffad y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth faint o ffosfforws sydd ar gael o’r cyflenwad ffosfforws yn y pridd; ac
c
llunio cynllun ar gyfer taenu gwrtaith ffosffad ar gyfer y tymor tyfu hwnnw.
2
Rhaid i’r meddiannydd wneud hyn —
a
yn achos unrhyw gnwd ac eithrio glaswelltir parhaol, cyn taenu unrhyw wrtaith ffosffad am y tro cyntaf at ddibenion gwrteithio cnwd a blannwyd neu y bwriedir ei blannu; a
b
yn achos glaswelltir parhaol, bob blwyddyn gan ddechrau ar 1 Ionawr cyn taenu gwrtaith ffosffad.
Gofynion eraill ar gyfer y cynlluniau gwrteithio5
1
Rhaid i’r cynllun gwrteithio ar gyfer y daliad a randdirymwyd—
a
cynnwys bras-gynllun sy’n dynodi lleoliad y caeau mae’r cynllun yn berthnasol iddynt; a
b
datgan yn glir mewn perthynas ag unrhyw gae y cyfeirir ato yn y cynllun natur y gwrtaith i’w ddefnyddio.
2
Rhaid i’r cynllun gwrteithio gofnodi—
a
y cyflenwad ffosfforws yn y pridd a’r dull a ddefnyddir i gadarnhau’r ffigur hwn;
b
y maint gorau posibl o wrtaith ffosffad y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth faint o ffosfforws sydd ar gael o’r cyflenwad ffosfforws yn y pridd;
c
faint o nitrogen sy’n debygol o fod ar gael i’w amsugno gan y cnwd o unrhyw dail organig y bwriedir ei daenu i’w amsugno gan y cnwd yn y tymor tyfu yn ystod y flwyddyn galendr y taenir ef ynddi;
d
faint o ffosffad sy’n debygol o gael ei gyflenwi i fodloni gofyniad y cnwd o unrhyw dail organig a daenir neu y bwriedir ei daenu yn ystod y flwyddyn galendr;
e
faint o wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd sydd ei angen (hynny yw, y maint gorau posibl o nitrogen y mae ei angen ar y cnwd gan ddidynnu faint o nitrogen a fydd ar gael i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir yn ystod y flwyddyn galendr honno); ac
f
faint o wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd sydd ei angen (hynny yw, y maint gorau posibl o ffosffad y mae ei angen ar y cnwd gan ddidynnu faint o ffosffad a gyflenwir i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir at ddibenion gwrteithio’r cnwd yn ystod y flwyddyn galendr honno).
Samplu a dadansoddi pridd6
1
Bob pedair blynedd o leiaf rhaid i’r meddiannydd ymgymryd â samplu a dadansoddi pridd ar gyfer cyflenwad o ffosfforws o bob pum hectar o leiaf o ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd sydd o dan yr un drefn gnydio a math o bridd.
2
Caiff meddiannydd ddibynnu ar ganlyniadau blaenorol samplu a dadansoddi pridd ffosfforws o ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd sydd o dan yr un drefn gnydio a math o bridd at ddibenion is-baragraff (1), ar yr amod y cyflawnwyd y samplu a’r dadansoddi hwnnw o fewn pedair blynedd cyn y rhanddirymiad.
3
Pan na chyflawnwyd samplu a dadansoddi pridd ffosfforws o ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd sydd o dan yr un drefn gnydio a math o bridd o fewn pedair blynedd i’r rhanddirymiad gael ei ganiatáu, rhaid cyflawni’r samplu a dadansoddi hwnnw fel a ganlyn—
a
75% o’r ardal amaethyddol heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl caniatáu’r rhanddirymiad; a
b
100% o’r ardal amaethyddol heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl y dyddiad y rhoddir y caniatâd nesaf am y rhanddirymiad i’r meddiannydd.
Yr wybodaeth ychwanegol sydd i’w chofnodi yn ystod y flwyddyn7
1
Yn ychwanegol at yr wybodaeth sydd i’w chofnodi o dan reoliad 15 (yr wybodaeth ychwanegol sydd i’w chofnodi yn ystod y flwyddyn) rhaid i’r meddiannydd, cyn taenu tail organig, gofnodi—
a
cyfanswm cynnwys ffosffad y tail organig; a
b
faint o ffosffad sy’n debygol o gael ei gyflenwi o’r tail organig y bwriedir ei daenu at ddibenion gwrteithio’r cnwd yn y tymor tyfu y taenir ef ynddo.
2
Yn ychwanegol at ofynion is-baragraff (1) rhaid i’r meddiannydd, cyn taenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd, gofnodi—
a
faint sydd ei angen (hynny yw, y maint gorau posibl o ffosffad y mae ei angen ar y cnwd gan ddidynnu faint o ffosffad a gyflenwir i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir); a
b
y dyddiad a drefnwyd ar gyfer taenu (mis).
Mapiau risg8
1
Yn ychwanegol at y gofynion o dan reoliad 19 (mapiau risg), rhaid i fap risg—
a
dangos pob cae wedi’i farcio â rhif cyfeirnod neu rif sy’n galluogi croesgyfeirio at gaeau a gofnodwyd yn y cynlluniau gwrteithio;
b
cyfateb i ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd; ac
c
cael ei gwblhau erbyn 1 Mawrth yn y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.
2
Pan fo newid mewn amgylchiadau yn effeithio ar fater y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1), rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r map risg o fewn mis i’r newid.
Cynnal y daliad a randdirymwyd yn ddaliad glaswelltir9
Rhaid i’r meddiannydd gynnal y daliad i sicrhau bod o leiaf 80% o’r ardal amaethyddol yn cael ei hau â phorfa yn ystod y flwyddyn y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.
Cyfnod gwaharddedig ar gyfer aredig porfa ar y daliad a randdirymwyd10
Ni chaiff neb—
a
aredig glaswelltir dros dro ar briddoedd tywodlyd rhwng 1 Gorffennaf a 31 Rhagfyr;
b
aredig porfa ar briddoedd tywodlyd cyn 16 Ionawr lle y cafodd tail da byw ei daenu ar y borfa honno rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr flaenorol; ac
c
aredig porfa ar briddoedd nad ydynt yn briddoedd tywodlyd cyn 16 Ionawr lle y cafodd tail da byw ei daenu ar y borfa honno rhwng 15 Hydref yn y flwyddyn galendr flaenorol a 15 Ionawr.
Hadu cnydau ar ôl porfa ar y daliad a randdirymwyd11
Pan fo porfa ar y daliad a randdirymwyd yn cael ei haredig, rhaid bod y tir—
a
wedi’i hau gan gnwd sydd â galw mawr am nitrogen o fewn pedair wythnos sy’n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa; neu
b
wedi’i hau gan borfa o fewn chwe wythnos sy’n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa.
Cylchdro cnydau ar y daliad a randdirymwyd12
Rhaid i gylchdro cnydau ar y daliad a randdirymwyd beidio â chynnwys codlysiau neu blanhigion eraill sy’n trosi nitrogen atmosfferig ac eithrio porfa sydd â llai na 50% o feillion, neu unrhyw godlysiau eraill gyda phorfa wedi’i hau oddi tanynt.
Cofnodi maint y daliad a randdirymwyd13
1
Rhaid i feddiannydd gofnodi cyfanswm yr ardal amaethyddol a’r ardal o borfa yn y daliad a randdirymwyd erbyn 1 Mawrth yn y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.
2
Os bydd maint y daliad a randdirymwyd neu ardal o borfa oddi mewn iddo yn newid rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r cofnod o fewn mis sy’n dechrau drannoeth y newid.
Cofnodion ynglŷn â storio tail yn ystod y cyfnod storio14
Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 37 (cofnodion ynglŷn â storio tail yn ystod y cyfnod storio) rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod sy’n disgrifio’r systemau siediau da byw a storio tail ynghyd â faint o le storio tail sydd ar gael ar y daliad erbyn 1 Mawrth yn y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.
Cofnod o’r nitrogen a’r ffosffad a gynhyrchir gan anifeiliaid15
1
Rhaid i’r meddiannydd gofnodi nifer y da byw a ddisgwylir a’r categori (yn unol â’r categorïau yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1) i’w cadw ar y daliad yn ystod y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.
2
Yn dilyn y gofynion ynghylch cofnodi yn is-baragraff (1), rhaid i’r meddiannydd wedyn gyfrifo a chofnodi faint o nitrogen a ffosffad mewn tail y disgwylir i’r da byw eu cynhyrchu ar y daliad yn ystod y flwyddyn honno gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 yn Atodlen 1.
3
Rhaid i’r cofnodion sydd i’w gwneud yn unol ag is-baragraffau (1) a (2) gael eu gwneud cyn 1 Mawrth yn y flwyddyn galendr dan sylw.
Tail da byw y bwriedir dod ag ef i’r daliad a randdirymwyd neu ei anfon oddi yno16
1
Rhaid i’r meddiannydd—
a
gwneud cofnod o’r math o dail da byw a faint ohono y bwriedir dod ag ef i’r daliad a’i anfon oddi yno yn ystod y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi; a
b
asesu a chofnodi faint o nitrogen sydd yn y tail da byw a gofnodwyd o dan is-baragraff (1)(a) yn unol â rheoliad 39(4) a Rhannau 1 a 2 o Atodlen 3.
2
Rhaid i’r cofnodion sydd i’w gwneud o dan is-baragraff (1) gael eu gwneud cyn 1 Mawrth yn ystod y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.
Cofnodion o’r cnydau a heuwyd17
Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 42 (cofnodion o’r cnydau a heuwyd) rhaid i feddiannydd sy’n bwriadu taenu gwrtaith ffosffad, o fewn wythnos o hau cnwd gofnodi—
a
y cnwd a heuwyd; a
b
y dyddiad hau.
Cofnodion o daenu gwrtaith ffosffad18
Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 43 (cofnodion o daenu gwrtaith nitrogen) rhaid i feddiannydd gofnodi—
a
o fewn wythnos o daenu tail organig—
i
cyfanswm y cynnwys ffosfforws; a
ii
faint o ffosffad a gyflenwyd i’w amsugno gan y cnwd; a
b
o fewn wythnos o daenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd—
i
y dyddiad taenu; a
ii
faint o ffosffad a daenwyd.
Cofnodi dyddiad yr aredig19
Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 44 (cofnodion dilynol) rhaid i feddiannydd gofnodi o fewn wythnos o aredig y daliad a randdirymwyd, ddyddiad yr aredig hwnnw.
Cyfrifon gwrteithio20
1
Rhaid i feddiannydd, neu unrhyw berson ar ran y meddiannydd, gyflwyno cyfrifon gwrteithio ar gyfer y flwyddyn galendr i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru erbyn 30 Ebrill y flwyddyn ganlynol.
2
Rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru gyhoeddi’r dull a’r ffurf y mae’n rhaid i gyfrif gwrteithio gael ei wneud ynddynt.
3
(Rhaid i’r cyfrif gwrteithio gofnodi—
a
cyfanswm ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd;
b
yr ardal o’r daliad a randdirymwyd a orchuddiwyd gan—
i
gwenith gaeaf;
ii
gwenith gwanwyn;
iii
haidd gaeaf;
iv
haidd gwanwyn;
v
rêp had olew gaeaf;
vi
betys siwgr;
vii
tatws;
viii
indrawn porthi;
ix
porfa; a
x
cnydau eraill;
c
nifer a chategori’r anifeiliaid a gadwyd ar y daliad a randdirymwyd yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol yn unol â’r categorïau a ddisgrifir yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1;
d
faint o nitrogen a ffosffad oedd yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad a randdirymwyd yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 yn Atodlen 1;
e
faint o dail da byw, ei nodweddion a pha fath a ddygwyd i’r daliad a randdirymwyd neu ei anfon oddi yno yn ystod y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi;
f
faint o nitrogen a ffosffad oedd yn y tail a gofnodwyd o dan is-baragraff (3)(e) a gyfrifwyd yn unol â pharagraff 14(2);
g
pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen yr holl stociau gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a gadwyd ar y daliad a randdirymwyd rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr yn ystod y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi; a
h
pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen yr holl wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a ddygwyd i’r daliad a randdirymwyd a’i anfon oddi yno rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr yn ystod y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.