Diwrnod penodedig2
4 Ionawr 2016 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015—
a
adran 5 (dyletswydd i baratoi strategaethau lleol);
b
adran 6 (cyhoeddi ac adolygu strategaethau lleol);
c
adran 7 (materion y mae’n rhaid rhoi sylw iddynt wrth baratoi neu adolygu strategaeth leol);
d
adran 8 (dyletswydd i weithredu strategaethau lleol); ac
e
adran 13 (adroddiadau cynnydd blynyddol gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol).