Dyma’r ail orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn yn darparu mai 4 Ionawr 2016 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau’r Ddeddf nad ydynt eisoes mewn grym. Sef:
adran 5 (dyletswydd i baratoi strategaethau lleol)
adran 6 (cyhoeddi ac adolygu strategaethau lleol)
adran 7 (materion y mae’n rhaid rhoi sylw iddynt wrth baratoi neu adolygu strategaeth leol)
adran 8 (dyletswydd i weithredu strategaethau lleol)
adran 13 (adroddiadau cynnydd blynyddol gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol).
Daeth adrannau 1 (diben y Ddeddf hon), 24 (dehongli), 25 (cychwyn) a 26 (enw byr) i rym pan roddwyd y Cydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2015 yn rhinwedd adran 25(1) o’r Ddeddf.