NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud addasiad canlyniadol i Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998 (“Deddf 1998”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 46(4) o Ddeddf 1998 drwy fewnosod cyfeiriad at Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”). Mae’r ddarpariaeth yn sicrhau na ellir erlyn person o dan Ddeddf 1998 a Deddf 2014 am drosedd sy’n codi o’r un ymddygiad.

Nid oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi ei lunio ar gyfer y Gorchymyn hwn gan na ragwelir y bydd yn effeithio o gwbl ar y sector cyhoeddus, y sector preifat, y sector elusennol na’r sector gwirfoddol.