Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Addasu Canlyniadol) 2015
Yn unol ag adran 17(2) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Addasu Canlyniadol) 2015 a daw i rym ar 9 Rhagfyr 2015.
(2)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Addasu Deddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 19982.
(a)
ar ddiwedd paragraff (b) hepgorer “and”;
(b)
“; and
(d)
the Agricultural Sector (Wales) Act 2014.”
Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud addasiad canlyniadol i Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998 (“Deddf 1998”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 46(4) o Ddeddf 1998 drwy fewnosod cyfeiriad at Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”). Mae’r ddarpariaeth yn sicrhau na ellir erlyn person o dan Ddeddf 1998 a Deddf 2014 am drosedd sy’n codi o’r un ymddygiad.
Nid oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi ei lunio ar gyfer y Gorchymyn hwn gan na ragwelir y bydd yn effeithio o gwbl ar y sector cyhoeddus, y sector preifat, y sector elusennol na’r sector gwirfoddol.