RHAN 9Cronfa ddata ganolog
Stocrestr o anifeiliaid
26
At ddibenion Erthygl 7(2) o Reoliad y Cyngor, rhaid i geidwad sy’n cadw anifeiliaid yn barhaol wneud stocrestr flynyddol o nifer yr anifeiliaid ar ei ddaliad o fewn 30 diwrnod ar ôl dyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru.
27
Cyflawnir trosedd os yw ceidwad yn methu â chydymffurfio ag erthygl 26.
Cyflenwi gwybodaeth28
1
Ar ôl cael hysbysiad o dan Erthygl 8(2) o Reoliad y Cyngor fod person wedi dod yn geidwad mewn daliad, rhaid i Weinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i baragraff (2), ddyrannu nod diadell mewn cysylltiad â phob diadell o ddefaid ar y daliad a nod geifre mewn cysylltiad â phob geifre o eifr ar y daliad.
2
Os lladd-dy neu farchnad yw’r daliad, nid oes rhaid i Weinidogion Cymru ddyrannu nod diadell neu nod geifre onid ydynt o’r farn y byddai’n briodol gwneud hynny.
3
Rhaid i’r ceidwad hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen ynghylch unrhyw newid yn yr wybodaeth a bennir yn Erthygl 8(2)(a) o Reoliad y Cyngor o fewn 30 diwrnod ar ôl newid o’r fath.
4
O fewn 30 diwrnod ar ôl dod yn geidwad, rhaid i’r person hwnnw hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen ynghylch y newid hwnnw.
5
Cyflawnir trosedd os yw ceidwad yn methu â chydymffurfio â pharagraffau (3) neu (4).