RHAN 8Dogfennau symud
Cronfa ddata ganolog a dogfen symud24
1
Caiff Gweinidogion Cymru benodi person i weithredu cronfa ddata ganolog gyfrifiadurol ar gyfer cofnodi symudiadau anifeiliaid, a fydd â’r gallu i dderbyn hysbysiadau o symudiadau yn electronig.
2
Yn y Rhan hon, ystyr “hysbysu” (“notify”) yw hysbysu gweithredwr y gronfa ddata ganolog.
3
Mae gweithredwyr lladd-dai, marchnadoedd, canolfannau casglu a chanolfannau crynhoi wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru fel pwyntiau cofnodi canolog, a rhaid i’r gweithredwyr hyn hysbysu ynghylch symudiadau anifeiliaid, i mewn i’w mangreoedd ac allan ohonynt, yn electronig.
4
Caniateir i geidwaid eraill hysbysu yn electronig ynghylch symudiadau anifeiliaid i mewn i’w mangreoedd ac allan ohonynt.
5
Pan fo ceidwad yn hysbysu, yn electronig, ynghylch symud anifail o’i ddaliad, rhaid iddo gofnodi’r manylion sy’n ofynnol gan Adran C o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor, ac eithrio llofnod y ceidwad, yn y gronfa ddata ganolog o fewn 3 diwrnod ar ôl y symudiad.
6
Pan fo gweithredwr pwynt cofnodi canolog yn hysbysu yn electronig ynghylch symud anifeiliaid a adnabuwyd yn unol ag erthygl 10, rhaid i’r gweithredwr, yn ychwanegol—
a
cofnodi yn y gronfa ddata ganolog yr holl ddynodiadau unigol ar gyfer yr anifeiliaid hynny; a
b
cynnwys yn y ddogfen symud niferoedd cyfanswm yr anifeiliaid a adnabuwyd sydd â phob nod geifre neu nod diadell.
7
Yn ddarostyngedig i baragraffau (8), (9) a (10), pan fo ceidwad yn symud anifail o’i ddaliad rhaid iddo lenwi dogfen symud yn unol ag Adran C o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor a hynny mewn ffurf a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru, a rhaid iddo ddarparu copi o’r ddogfen i’r cludwr.
8
Pan fo ceidwad yn hysbysu yn electronig ynghylch symud anifail o’i ddaliad, nid oes rhaid iddo lofnodi’r ddogfen symud.
9
Pan fo ceidwad yn hysbysu yn electronig ynghylch symudiad o’i ddaliad, a bod y cludwr, ar ei hynt, yn gallu argraffu dogfen mewn perthynas â’r holl anifeiliaid a gludir, sy’n rhoi—
a
yr holl wybodaeth sy’n ofynnol gan baragraff (5); a
b
mewn perthynas â’r anifeiliaid a symudir o farchnadoedd, canolfannau casglu a chanolfannau crynhoi ac a adnabuwyd yn unol ag erthygl 10, yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (6)(b),
nid oes rhaid i’r ceidwad lenwi dogfen symud.
10
Caniateir i fanylion adnabod anifail gael eu cofnodi yn y daliad ar ben y daith os—
a
pwynt cofnodi canolog yw’r daliad ar ben y daith; a
b
cludir yr anifail yn unol ag Adran C.2(a) o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor.
11
Pan fo gweithredwr pwynt cofnodi canolog wedi cofnodi manylion adnabod anifail yn unol â pharagraff (10), rhaid i’r gweithredwr hysbysu ceidwad y daliad y symudwyd yr anifail ohono ynghylch manylion adnabod yr anifail, yn unol ag Adran C.2(c) o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor.
12
Rhaid i geidwad, y symudir anifail i’w ddaliad, gadw copi o’r ddogfen symud a ddarperir iddo gan gludwr yr anifail hwnnw, am dair blynedd—
a
oni hysbysir yn electronig ynghylch y symudiad o’r daliad blaenorol a’r symudiad i ddaliad y ceidwad, neu
b
oni fydd y ceidwad yn sganio’r ddogfen symud ac yn cadw copi electronig ohoni am dair blynedd,
a rhaid i’r ceidwad gadw unrhyw gopïau o’r fath yn eu trefn gronolegol.
Cyflenwi dogfen symud25
1
Pan symudir anifail i ddaliad, rhaid i gludwr yr anifail hwnnw roi i’r ceidwad yn y daliad hwnnw—
a
copi o’r ddogfen symud, neu
b
os, yn unol ag erthygl 24(9), nad oes dogfen symud, allbrint o’r wybodaeth y cyfeirir ati yn yr erthygl honno.
2
Rhaid i weithredwr pwynt cofnodi canolog hysbysu gweithredwr y gronfa ddata ganolog ynghylch symudiadau anifeiliaid i mewn ac allan o’i fangre, yn electronig, o fewn 3 diwrnod ar ôl y symudiad.
3
Pan nad yw’r daliad ar ben y daith yn bwynt cofnodi canolog, rhaid i’r ceidwad yn y daliad ar ben y daith hysbysu gweithredwr y gronfa ddata ganolog ynghylch cael yr anifeiliaid hynny, mewn unrhyw fodd a ganiateir gan Weinidogion Cymru, o fewn 3 diwrnod ar ôl cael yr anifeiliaid.
4
Yn achos anifail a symudir o ddaliad i borthladd ac a fwriedir ar gyfer ei draddodi allan o Brydain Fawr, rhaid i’r ceidwad yn y daliad hwnnw hysbysu gweithredwr y gronfa ddata ganolog ynghylch y symudiad hwnnw, mewn unrhyw fodd a ganiateir gan Weinidogion Cymru, o fewn 3 diwrnod ar ôl symud yr anifail.