RHAN 4Tynnu neu amnewid modd adnabod anifeiliaid a gafodd eu hadnabod o dan Ran 3
Cymhwyso Rhan 412
Mae’r Rhan hon yn gymwys i bob anifail a adnabuwyd o dan Ran 3.
Tynnu neu amnewid modd adnabod13
1
Ni chaiff neb fynd yn groes i Erthygl 4(6) (y paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor na methu â chydymffurfio â hi.
2
Ond rhaid i geidwad amnewid modd adnabod sydd ar goll neu’n annarllenadwy, yn unol ag erthyglau 14 neu 15 yn ôl gofynion yr achos, cyn gynted â phosibl ar ôl canfod bod y modd adnabod gwreiddiol ar goll neu’n annarllenadwy, ond beth bynnag—
a
dim hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl canfod bod y modd adnabod ar goll neu’n annarllenadwy, a
b
cyn bo’r anifail yn cael ei symud o’r daliad.
3
Pan ddisodlir marc adnabod gan farc adnabod sy’n dwyn cod adnabod gwahanol, a’r hen god adnabod yn hysbys, rhaid i’r ceidwad groesgyfeirio’r hen god adnabod a’r cod adnabod newydd yng nghofrestr y daliad.
4
Mae’n amddiffyniad pan fo unrhyw berson, a gyhuddir o drosedd o fynd yn groes i baragraffau (1) neu (2) neu o fethu â chydymffurfio â hwy, yn profi—
a
bod y modd adnabod wedi ei dynnu i atal poen ddiangen i anifail; a
b
bod modd adnabod amnewid sy’n dwyn yr un cod adnabod wedi ei osod ar yr anifail cyn gynted â phosibl.
Amnewid modd adnabod anifeiliaid a adnabuwyd yn unol ag erthygl 9 neu erthygl 1114
1
Pan fo anifail, a adnabuwyd yn unol ag erthygl 9 neu erthygl 11, yn colli un modd adnabod, neu pan fo’r modd adnabod hwnnw’n mynd yn annarllenadwy, mae’r modd adnabod yn cael ei amnewid yn unol â’r erthygl hon os disodlir ef gan un sy’n dwyn yr un rhif 12 digid, neu os tynnir ymaith y ddyfais adnabod sy’n weddill ac ailadnabyddir yr anifail yn unol ag erthygl 9 neu erthygl 11.
2
Pan fo anifail, a adnabuwyd yn unol ag erthygl 9 neu erthygl 11, yn colli’r ddau fodd adnabod, neu’r ddau fodd adnabod yn mynd yn annarllenadwy, mae’r anifail yn cael ei ailadnabod yn unol â’r erthygl hon os ailadnabyddir yr anifail yn unol ag erthygl 9 neu erthygl 11.
Amnewid modd adnabod a gollwyd neu sy’n annarllenadwy, ar gyfer anifeiliaid a adnabuwyd yn unol ag erthygl 10 neu erthygl 1115
1
Pan fo anifail a adnabuwyd yn unol ag erthygl 10 neu erthygl 11 yn colli ei dag clust neu’r tag clust hwnnw’n mynd yn annarllenadwy a’r anifail ar ei ddaliad genedigol, mae’n cael ei ailadnabod yn unol â’r erthygl hon os amnewidir y tag clust am un sy’n dwyn yr un nod diadell neu’r un nod geifre.
2
Pan fo anifail a adnabuwyd yn unol ag erthygl 10 neu erthygl 11 yn colli ei dag clust neu’r tag clust hwnnw’n mynd yn annarllenadwy ac nad yw’r anifail ar ei ddaliad genedigol, neu os nad yw’r ceidwad yn gwybod a yw’r anifail ar ei ddaliad genedigol ai peidio, mae’r anifail yn cael ei ailadnabod yn unol â’r erthygl hon os amnewidir y tag clust am dag clust coch sy’n dwyn nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y daliad y mae’r anifail arno bellach.