RHAN 3Adnabod anifeiliaid

Adnabod anifeiliaid ar neu ar ôl 1 Ionawr 20169

1

Mae’r erthygl hon yn gymwys i’r canlynol—

a

anifeiliaid a anwyd cyn 1 Ionawr 2016 na chawsant eu hadnabod cyn y dyddiad hwnnw ac sydd ar eu daliad genedigol;

b

defaid a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016; ac

c

geifr a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016 y mae eu ceidwaid yn dewis eu hadnabod yn electronig.

2

Rhaid i geidwad gydymffurfio ag Erthygl 4(1) (y paragraff cyntaf), Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor a’r erthygl hon, onid yw’r dull adnabod amgen a nodir yn erthygl 10 wedi ei awdurdodi.

3

At ddibenion Erthygl 4(1) o Reoliad y Cyngor, y terfynau amser ar gyfer adnabod anifail yw—

a

9 mis o’r dyddiad geni, yn achos anifail a gedwir o dan amodau ffermio llai dwys neu ar faes; neu

b

6 mis o’r dyddiad geni, yn achos unrhyw anifail arall.

4

Ni chaniateir i anifail gael ei adnabod drwy ddefnyddio bolws mewn cyfuniad â thatŵ.

5

Rhaid i’r cod adnabod ar fodd adnabod at ddibenion Adran A.2 o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor fod fel a ganlyn—

a

y llythrennau “UK” neu, ar ddyfais adnabod electronig, y rhifau “826”; a

b

rhif 12 digid a bennir gan Weinidogion Cymru;

a rhaid iddo fod yn union yr un fath ar y modd adnabod cyntaf ac ar yr ail fodd adnabod.

Adnabod anifeiliaid a fwriedir ar gyfer eu cigydda10

1

Ar gyfer anifeiliaid y bwriedir eu cigydda cyn 12 mis oed ac na fwriedir eu hallforio, awdurdodir y dull adnabod yn Adran A.7 o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor, a rhaid i’r dull adnabod hwnnw fod yn electronig yn achos defaid.

2

Rhaid i’r cod adnabod at ddibenion Adran A.7 o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor fod fel a ganlyn, sef y llythrennau “UK” ac wedyn nod y ddiadell neu nod yr eifre; ni chaniateir i unrhyw rif arall a ddyroddir gan yr awdurdod cymwys gael ei gofnodi yn weledol ar y tag clust hwn.

3

Pan fwriedir cigydda ar ôl 12 mis oed neu allforio anifail a adnabuwyd o dan baragraff (1) rhaid i’r anifail hwnnw gael ei adnabod yn unol ag erthygl 9 a rhaid tynnu’r tag clust gwreiddiol oddi arno.

4

Caiff ceidwad ailadnabod, o dan erthygl 9, unrhyw anifail a adnabuwyd o dan yr erthygl hon ac nid oes angen iddo gigydda’r anifail hwnnw cyn 12 mis oed ar yr amodau canlynol yn unig—

a

os yw’r anifail ar ei ddaliad genedigol; neu

b

os oes gan y ceidwad gofnod cyflawn o holl symudiadau’r anifail.

5

Pan ailadnabyddir anifail o dan baragraff (4)(b) rhaid i’r ceidwad groesgyfeirio’r hen god adnabod a’r cod adnabod newydd yng nghofrestr y daliad.

6

Caiff ceidwad ailadnabod gafr a adnabuwyd o dan baragraff (1) drwy ddefnyddio tag clust o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (2) sy’n cynnwys dynodiad electronig.

Anifeiliaid a anwyd ac a adnabuwyd cyn 1 Ionawr 201611

Mae Rhan 3 o Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2009, yn y ffurf yr oedd yn bodoli ynddi yn union cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym, yn parhau’n gymwys i anifeiliaid a anwyd ac a adnabuwyd cyn 1 Ionawr 2016 ac eithrio, yn achos defaid y bwriedir eu cigydda cyn cyrraedd 12 mis oed, na fwriedir eu hallforio ac a adnabuwyd cyn 1 Ionawr 2016 gan ddefnyddio’r dull yn Adran A.7 o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor, y caniateir parhau i adnabod y defaid hynny yn unol â’r dull hwnnw tan 30 Mehefin 2017. Rhaid i’r anifail wedyn gael ei adnabod yn unol ag erthygl 9, a rhaid tynnu’r tag clust anelectronig oddi arno.