RHAN 2Dyfeisiau adnabod

Cymeradwyo dyfeisiau adnabod5

Rhaid i ddyfeisiau adnabod a ddefnyddir i gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn fod o fodel a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.

Tagiau ychwanegol a dyfeisiau adnabod sydd â gwybodaeth ychwanegol6

1

Ar gais ceidwad, caiff gweithgynhyrchydd dyfeisiau adnabod, yn ddarostyngedig i erthygl 6(2), ychwanegu gwybodaeth atodol at ddyfais adnabod neu ddyfais amnewid ar yr amod—

a

bod yr wybodaeth atodol yn gwbl wahanol i’r cod adnabod; a

b

bod y cod adnabod yn parhau’n ddarllenadwy ac y gellir ei weld yn eglur bob amser.

2

Caiff ceidwad osod tag ychwanegol ar anifail ond rhaid iddo beidio â chynnwys y llythrennau “UK” nac ychwaith ddwyn nod diadell neu nod geifre, onid awdurdodir hynny gan Weinidogion Cymru.

Lliw dyfeisiau adnabod7

1

Rhaid i bob dyfais adnabod, heblaw dyfeisiau amnewid a bolysau, fod yn felyn ac ni chaiff ceidwad osod dyfais adnabod felyn nad yw’n electronig.

2

Ni chaiff neb osod dyfais adnabod goch ar unrhyw anifail, heblaw dyfais adnabod amnewid.

3

Pan fo ceidwad yn ailadnabod anifail ac nad yw’r anifail hwnnw ar ei ddaliad genedigol, neu pan nad yw’r ceidwad yn gwybod y daliad genedigol, rhaid iddo ddefnyddio dyfais adnabod amnewid goch ond nid yw’r gofyniad bod rhaid defnyddio dyfais adnabod goch yn gymwys i ddefnyddio bolysau.

4

Pan adwaenir anifail drwy gyfrwng bolws ac ail ddyfais adnabod rhaid i’r ail ddyfais honno fod yn ddu ac ni chaniateir defnyddio dyfais adnabod ddu ac eithrio mewn cyfuniad â bolws.

5

Rhaid i’r arwyddnodau ar bob dyfais adnabod fod o liw gwahanol i gefndir y ddyfais a bod yn eglur a darllenadwy bob amser pan fo’r ddyfais ynghlwm wrth anifail.

6

Caniateir defnyddio mecanwaith o unrhyw liw i osod tagiau clust melyn, coch neu ddu.

Dinistrio dyfeisiau adnabod8

1

Rhaid i weithredwr lladd-dy, iard gelanedd, cynel helgwn neu safle rendro, ac unrhyw berson arall sy’n gwaredu’n derfynol garcas anifail a adnabuwyd, ddinistrio pob dyfais adnabod sydd ar yr anifeiliaid a gigyddir neu a waredir rywfodd arall ganddynt, mewn modd diogel a fydd yn atal ailddefnyddio’r dyfeisiau adnabod.

2

Mae dinistrio diogel yn cynnwys rendro unrhyw ddyfais adnabod.