RHAN 12Amrywiol

Adnabod a chofnodi anifeiliaid i’w hallforio36

1

Rhaid i geidwad adnabod pob anifail a draddodir i’w allforio yn unol ag Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor.

2

Pan fo anifail a adnabuwyd cyn 1 Ionawr 2016 yn cael ei draddodi i’w allforio rhaid i’r ceidwad gofnodi ei fanylion adnabod unigol yng nghofrestr y daliad ac ni chaiff allforio’r anifail hwnnw cyn diwedd cyfnod o 30 diwrnod ar ôl cofnodi ei fanylion adnabod.

Amddiffyniad mewn perthynas â symud ar gyfer triniaeth filfeddygol frys37

Mae’n amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir o drosedd o fynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn sy’n ymwneud â symud anifail o ddaliad heb osod neu roi arno’r modd adnabod sy’n ofynnol, neu o beidio â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o’r fath, os profir bod yr anifail wedi ei symud o’r daliad er mwyn cael triniaeth filfeddygol frys.

Pwerau arolygwyr38

1

Caiff arolygydd, at unrhyw ddiben sy’n ymwneud â gorfodi’r Gorchymyn hwn—

a

casglu, corlannu a marcio unrhyw anifail a gwneud yn ofynnol i geidwad drefnu casglu, corlannu, marcio a diogelu unrhyw anifail;

b

ei gwneud yn ofynnol i’r ceidwad ddangos neu wneud copi o unrhyw ddogfen neu gofnod;

c

symud ymaith a chadw unrhyw ddogfen neu gofnod;

d

cael mynediad at, a gwirio gweithrediad, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â chofnodion;

e

pan gedwir cofnod gan ddefnyddio cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol cynhyrchu’r cofnod hwnnw mewn ffurf sy’n caniatáu ei symud ymaith;

f

ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw ddyfeisiau adnabod nas defnyddir, a chofnodi eu rhifau;

g

mynd â chynrychiolydd o’r Comisiwn Ewropeaidd gydag ef sy’n gweithredu at ddibenion Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor, neu fynd ag unrhyw bobl neu bethau gydag ef y mae o’r farn bod eu hangen.

2

Rhaid i berson y mae arolygydd sy’n gweithredu o dan baragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud unrhyw beth, onid oes ganddo achos rhesymol, wneud hynny yn ddi-oed, ac ar y person hwnnw y mae’r baich o brofi bod ganddo achos rhesymol o’r fath.

Pŵer i wahardd symud anifeiliaid39

1

Caiff arolygydd, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad, wahardd symud defaid i’r daliad a bennir yn yr hysbysiad neu ohono, os bodlonir yr arolygydd fod y gwaharddiad yn angenrheidiol er mwyn gorfodi’r Gorchymyn hwn yn briodol mewn perthynas â’r ddiadell honno.

2

Caiff arolygydd, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad, wahardd symud geifr i’r daliad a bennir yn yr hysbysiad neu ohono, os bodlonir yr arolygydd fod y gwaharddiad yn angenrheidiol er mwyn gorfodi’r Gorchymyn hwn yn briodol mewn perthynas â’r eifre honno.

3

Caniateir diwygio neu ddirymu hysbysiad a gyflwynir o dan yr erthygl hon ar unrhyw adeg drwy hysbysiad bellach.

Gwybodaeth ffug40

Ni chaiff neb roi gwybodaeth y gŵyr ei bod yn ffug neu’n gamarweiniol i berson sy’n gweithredu o dan y Gorchymyn hwn.

Addasu marciau adnabod41

Ni chaiff neb addasu, dileu neu ddifwyno’r wybodaeth ar unrhyw farc adnabod sydd wedi ei osod ar anifail o dan y canlynol—

a

Rheoliad y Cyngor;

b

y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth sy’n rhoi ei effaith i Reoliad y Cyngor yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;

c

y Gorchmynion blaenorol; neu

d

Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC, yn achos anifail a farciwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall yn unol â’r Gyfarwyddeb honno.

Troseddau gan gyrff corfforaethol42

1

Os profir bod trosedd yn erbyn Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981, a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol—

a

wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu

b

i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran,

bydd y swyddog yn ogystal â’r corff corfforaethol yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

2

Os rheolir busnes corff corfforaethol gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â’i swyddogaethau rheoli fel pe bai’r aelod yn gyfarwyddwr i’r corff.

3

Ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, aelod o’r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff, neu berson sy’n honni gweithredu mewn unrhyw swydd o’r fath.

Troseddau gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig43

1

Caniateir dwyn achos o dan y Gorchymyn hwn, am drosedd yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig, yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.

2

At ddibenion achos o’r fath—

a

bydd rheolau llys ynglŷn â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas yn gorff corfforaethol;

b

bydd adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 192524 ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 198025 yn gymwys o ran y bartneriaeth neu’r gymdeithas fel y maent yn gymwys o ran corff corfforaethol.

3

Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas yn dilyn euogfarn am drosedd o dan y Gorchymyn hwn i’w thalu allan o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas.

4

Pan brofir bod trosedd o dan y Gorchymyn hwn, a gyflawnwyd gan bartneriaeth, wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu y gellir priodoli’r drosedd honno i unrhyw esgeulustod ar ran partner, mae’r partner hwnnw (yn ogystal â’r bartneriaeth) yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

5

At ddibenion paragraff (4), mae “partner” (“partner”) yn cynnwys person sy’n honni gweithredu fel partner.

6

Pan brofir bod trosedd o dan y Gorchymyn hwn, a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i’r gymdeithas, neu y gellir priodoli’r drosedd honno i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog i’r gymdeithas, mae’r swyddog hwnnw (yn ogystal â’r gymdeithas) yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

7

At ddibenion paragraff (6), ystyr “swyddog” (“officer”) yw swyddog i’r gymdeithas neu aelod o’i chorff llywodraethu neu berson sy’n honni gweithredu mewn swydd o’r fath.

Gorfodi44

1

Gorfodir y Gorchymyn hwn gan yr awdurdod lleol.

2

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu ag unrhyw achos penodol, fod rhaid i ddyletswydd orfodi a osodwyd ar awdurdod lleol gan y Gorchymyn hwn gael ei chyflawni gan Weinidogion Cymru ac nid gan yr awdurdod lleol.

Dirymu45

Mae Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 200926 wedi ei ddirymu.