RHAN 11Anifeiliaid a ddygir i mewn i Gymru
Derbyn anifeiliaid o Aelod-wladwriaeth arall32
1
Ni chaiff neb dderbyn anifail o Aelod-wladwriaeth arall onid yw’r anifail wedi ei adnabod yn unol â’r canlynol—
a
Rheoliad y Cyngor, yn achos anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005; neu
b
Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC, yn achos anifail a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005.
2
Cyflawnir trosedd os tynnir ymaith neu os amnewidir dull adnabod gwreiddiol anifail sy’n tarddu o Aelod-wladwriaeth arall yn groes i Erthygl 4(5) o Reoliad y Cyngor.
Derbyn anifeiliaid o Loegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu Diriogaethau Dibynnol y Goron33
Ni chaiff neb dderbyn anifail o Loegr, yr Alban. Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw onid yw’r anifail wedi ei adnabod a bod dogfen symud yn dod ynghyd â’r anifail yn unol ag—
a
yn achos anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005, Rheoliad y Cyngor, gan gynnwys unrhyw randdirymiad a arferwyd o dan Reoliad y Cyngor; neu
b
yn achos anifail o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005, y Gorchmynion blaenorol ac unrhyw ofynion ychwanegol a osodwyd mewn deddfwriaeth sy’n gorfodi Rheoliad y Cyngor mewn perthynas â’r anifeiliaid hynny; neu
c
yn achos anifeiliaid o Diriogaethau Dibynnol y Goron a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005, Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC.
Adnabod anifeiliaid a fewnforir o drydydd gwledydd34
1
Cyflawnir trosedd os yw ceidwad yn methu â chydymffurfio ag Erthygl 4(4) o Reoliad y Cyngor a’r erthygl hon.
2
At ddibenion Erthygl 4(4) (y paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor, y cyfnod ar gyfer adnabod anifail yw 14 diwrnod.
3
Rhaid i fodd adnabod anifeiliaid a fewnforir o drydedd wlad fod o’r un math â’r hyn a nodir yn Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor, a’r cod adnabod at ddibenion Adran A.2 o’r Atodiad yw—
a
y llythrennau “UK”; a
b
rhif 12 digid yn unol â chynllun rhifo a ragnodir gan Weinidogion Cymru.
4
Pan gaiff anifail ei fewnforio o drydedd wlad a’i ailadnabod yn unol â’r erthygl hon, rhaid i’r ceidwad gofnodi gwybodaeth ynghylch ychwanegu’r modd adnabod newydd yn y gofrestr, ynghyd â’r cod adnabod llawn sydd ar y modd adnabod newydd a’r cod llawn sydd ar y dull adnabod a osodwyd yn y drydedd wlad.
Colli dulliau adnabod a osodwyd mewn trydedd wlad35
Pan gaiff anifail ei fewnforio o drydedd wlad a’i ailadnabod wedyn yn unol ag Erthygl 4(4) o Reoliad y Cyngor, nid yw’n ofynnol i’r ceidwad amnewid dull adnabod a osodwyd yn y drydedd wlad os bydd hwnnw wedyn yn cael ei golli neu’n mynd yn annarllenadwy.