NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3364 (Cy. 296)) (“Gorchymyn 2009”). Mae’n gwneud darpariaeth ar gyfer gweinyddu a gorfodi, yng Nghymru, Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 21/2004 (sy’n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid defeidiog a gafraidd ac sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1782/2003 a Chyfarwyddebau 92/102/EEC a 64/432/EEC).

Mae Rhan 2 yn darparu bod rhaid i’r dyfeisiau adnabod a ddefnyddir er mwyn cydymffurfio â’r Gorchymyn hwn fod o fath a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru, ac yn nodi rhai darpariaethau cyffredinol o ran gosod dyfeisiau adnabod.

Mae Rhan 3 yn darparu ar gyfer moddion adnabod defaid a geifr, gan gynnwys gofyniad i osod tag clust electronig er mwyn adnabod defaid y bwriedir eu cigydda cyn eu bod yn 12 mis oed. Os gosodwyd tag clust anelectronig cyn 1 Ionawr 2016 ar ddefaid y bwriedid eu cigydda cyn cyrraedd 12 mis oed, ni fydd rhaid newid y tag hwnnw am un electronig tan 30 Mehefin 2017.

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer tynnu neu amnewid marciau adnabod ar anifeiliaid a adnabuwyd o dan Ran 3.

Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaethau ar gyfer adnabod geifr nas adnabuwyd o dan Ran 3.

Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaethau ar gyfer amnewid marciau adnabod ar bob anifail a adnabuwyd cyn 1 Ionawr 2016 ac ar eifr a adnabuwyd yn unol â Rhan 5.

Mae Rhan 7 yn darparu ar gyfer cadw cofrestr daliad gyfoes gan bob ceidwad, ac yn nodi pa wybodaeth y mae’n rhaid ei chofnodi yn y gofrestr a pha bryd.

Mae Rhan 8 yn ei gwneud yn ofynnol bod gweithredwyr pwynt cofnodi canolog yn adrodd yn electronig am symudiadau anifeiliaid, ac yn caniatáu i geidwaid eraill wneud hynny.

Mae Rhan 9 yn nodi’r gofyniad bod ceidwaid yn cadw stocrestr flynyddol ac yn cyflenwi gwybodaeth am eu daliad i Weinidogion Cymru, a’r terfynau amser ar gyfer gwneud hynny.

Mae Rhan 10 yn darparu ar gyfer dyrannu rhifau lot i anifeiliaid mewn marchnad ac yn gwahardd prynu neu werthu anifeiliaid oni phrynir neu werthir yr holl anifeiliaid sydd yn y lot. Mae’n esemptio marchnadoedd a lladd-dai o’r angen i ailadnabod anifeiliaid sydd a’u nodau adnabod yn eisiau, ac yn darparu ar gyfer cytuno ar drefniadau i ganiatáu i bwyntiau cofnodi canolog beidio â chofnodi’n electronig os yw’r pŵer neu’r offer yn methu.

Mae Rhan 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gofynion adnabod anifeiliaid a ddygir i mewn i Gymru o Aelod-wladwriaethau eraill, rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, Tiriogaethau Dibynnol y Goron a thrydydd gwledydd.

Mae Rhan 12 yn cynnwys darpariaethau amrywiol a darpariaethau gorfodi gan gynnwys y gofynion ynghylch anifeiliaid sydd i’w hallforio. Mae erthygl 37 yn nodi amddiffyniad rhag cyhuddiad o fethu ag adnabod anifail yn gywir mewn achos o driniaeth filfeddygol frys. Mae erthygl 38 yn rhoi nifer o bwerau i arolygwyr ac mae erthygl 39 yn galluogi arolygwyr i wahardd symud diadell o ddefaid neu eifre o eifr i ddaliad neu allan ohono. Mae erthyglau 40 a 41 yn ymwneud â darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol ac addasu marciau adnabod. Mae erthygl 42 yn ymwneud â throseddau gan gyrff corfforaethol, ac erthygl 43 yn ymwneud â throseddau gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig. Gorfodir y Gorchymyn gan awdurdod lleol neu, os cyfarwyddir felly, gan Weinidogion Cymru (erthygl 44).

O dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 mae torri’r Gorchymyn yn drosedd, y gellir ei chosbi yn unol ag adran 75 o’r Ddeddf honno.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.