RHAN 3Adnabod anifeiliaid

Adnabod anifeiliaid ar neu ar ôl 1 Ionawr 20169

1

Mae’r erthygl hon yn gymwys i’r canlynol—

a

anifeiliaid a anwyd cyn 1 Ionawr 2016 na chawsant eu hadnabod cyn y dyddiad hwnnw ac sydd ar eu daliad genedigol;

b

defaid a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016; ac

c

geifr a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016 y mae eu ceidwaid yn dewis eu hadnabod yn electronig.

2

Rhaid i geidwad gydymffurfio ag Erthygl 4(1) (y paragraff cyntaf), Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor a’r erthygl hon, onid yw’r dull adnabod amgen a nodir yn erthygl 10 wedi ei awdurdodi.

3

At ddibenion Erthygl 4(1) o Reoliad y Cyngor, y terfynau amser ar gyfer adnabod anifail yw—

a

9 mis o’r dyddiad geni, yn achos anifail a gedwir o dan amodau ffermio llai dwys neu ar faes; neu

b

6 mis o’r dyddiad geni, yn achos unrhyw anifail arall.

4

Ni chaniateir i anifail gael ei adnabod drwy ddefnyddio bolws mewn cyfuniad â thatŵ.

5

Rhaid i’r cod adnabod ar fodd adnabod at ddibenion Adran A.2 o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor fod fel a ganlyn—

a

y llythrennau “UK” neu, ar ddyfais adnabod electronig, y rhifau “826”; a

b

rhif 12 digid a bennir gan Weinidogion Cymru;

a rhaid iddo fod yn union yr un fath ar y modd adnabod cyntaf ac ar yr ail fodd adnabod.