RHAN 10Marchnadoedd

Cynlluniau wrth gefn ar gyfer methiant pŵer ac offer31

1

Caiff awdurdodau lleol esemptio gweithredwyr pwyntiau cofnodi canolog rhag yr angen i gofnodi’r canlynol yn electronig—

a

rhif unigryw anifail ar ddogfen symud;

b

rhif unigryw anifail yng nghofrestr daliad; neu

c

y niferoedd o anifeiliaid mewn unrhyw lwyth sy’n dwyn nod diadell neu nod geifre penodol,

pan fo cynllun wrth gefn wedi ei gytuno rhwng yr awdurdod lleol a gweithredwr y pwynt cofnodi canolog.

2

Caiff awdurdod lleol dynnu unrhyw esemptiad o’r fath yn ôl os nad yw’n fodlon mwyach ar delerau’r cynllun wrth gefn neu ar y modd y rhoddir y cynllun ar waith.

3

Rhaid i gynllun wrth gefn y cytunir arno o dan baragraff (1) nodi’r amodau y mae’n rhaid i weithredwr y pwynt cofnodi canolog eu bodloni, ac o dan ba amgylchiadau y bydd yr esemptiadau ym mharagraff (1), cyhyd ag y bodlonir yr amodau hynny, yn gymwys. Rhaid i’r amodau hynny gynnwys gofyniad bod gweithredwr y pwynt cofnodi canolog yn hysbysu gweithredwr y gronfa ddata ganolog ynghylch symudiadau i mewn ac allan o’i fangre, mewn unrhyw fodd a ganiateir gan Weinidogion Cymru, o fewn 3 diwrnod ar ôl y symudiad o anifeiliaid.

4

Rhaid i weithredwr pwynt cofnodi canolog ofyn am gydsyniad yr awdurdod lleol ymlaen llaw ar bob achlysur pan yw’n dymuno cymhwyso’r esemptiadau ym mharagraff (1) a rhaid iddo beidio â derbyn anifeiliaid heb gofnodi’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) os gwrthodir y cydsyniad hwnnw.

5

Pan fo anifeiliaid yn cyrraedd pwynt cofnodi canolog sy’n cymhwyso’r esemptiadau ym mharagraff (1) ar ôl cael cydsyniad yr awdurdod lleol ymlaen llaw, rhaid i weithredwr y pwynt cofnodi canolog—

a

hysbysu gweithredwr y gronfa ddata ganolog ynghylch manylion adnabod yr anifeiliaid hynny a gofnodwyd ar y ddogfen symud sy’n dod ynghyd â’r anifeiliaid, o fewn 3 diwrnod ar ôl cael yr anifeiliaid; neu

b

os nad yw manylion adnabod yr anifeiliaid hynny wedi eu cofnodi ar ddogfen symud sy’n dod ynghyd â’r anifeiliaid, yn unol ag erthygl 24(9), rhaid i weithredwr y pwynt cofnodi canolog ddarparu cadarnhad ysgrifenedig, i’r ceidwad yn y daliad y cyrhaeddodd yr anifeiliaid ohono, fod y methiant i ddarparu manylion adnabod yr anifeiliaid unigol i’r ceidwad wedi ei gymeradwyo gan yr awdurdod lleol.