RHAN 6Tynnu neu amnewid marciau adnabod ar anifeiliaid a adnabuwyd cyn 1 Ionawr 2016

Ailadnabod anifeiliaid a adnabuwyd o dan y Gorchmynion blaenorol â modd adnabod nad yw’n cynnwys rhif unigryw22

1

Mae’r erthygl hon yn gymwys i anifeiliaid a adnabuwyd o dan y Gorchmynion blaenorol â modd adnabod nad yw’n cynnwys rhif unigryw.

2

Os yw—

a

y modd adnabod yn mynd ar goll neu’n annarllenadwy; neu

b

yr anifail yn cael ei symud o ddaliad;

rhaid i’r anifail gael ei ailadnabod yn unol â pharagraffau (3) neu (4).

3

Os yw’r anifail ar ei ddaliad genedigol rhaid i’r ceidwad ailadnabod yr anifail ag—

a

modd adnabod newydd;

b

dau fodd adnabod anelectronig, ill dau yn dwyn yr un rhif; neu

c

y modd adnabod a bennir yn Erthygl 4(1) (y paragraff cyntaf), Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor.

4

Os nad yw’r anifail ar ei ddaliad genedigol rhaid i’r ceidwad ailadnabod yr anifail gydag—

a

modd adnabod newydd;

b

dau fodd adnabod anelectronig, ill dau yn dwyn yr un rhif; neu

c

y modd adnabod a bennir yn Erthyglau 4(1)(y paragraff cyntaf), 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor.

5

Os caiff anifail ei ailadnabod â’r modd adnabod y cyfeirir ato ym mharagraff (4) rhaid i’r ceidwad gofnodi gwybodaeth am y modd adnabod amnewid gan gynnwys y cod adnabod llawn sydd ar y modd adnabod amnewid a chofnodi’r llythrennau neu nod diadell neu nod geifre sydd ar y modd adnabod gwreiddiol, os ydynt yn hysbys, yng nghofrestr y daliad.

6

Os ailadnabyddir anifail yn unol â pharagraffau (3) neu (4) rhaid i’r cod adnabod ar fodd adnabod newydd fod fel a ganlyn—

a

y llythrennau “UK”; a

b

rhif 12 digid yn unol â chynllun rhifo a ragnodir gan Weinidogion Cymru.