RHAN 6Tynnu neu amnewid marciau adnabod ar anifeiliaid a adnabuwyd cyn 1 Ionawr 2016

Amnewid marc adnabod sengl ar anifail sydd ag un tag21

1

Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo’r modd adnabod neu’r modd adnabod hŷn ar anifail sydd â ffurf adnabod sengl ar goll neu’n annarllenadwy.

2

Yn yr erthygl hon ystyr “anifail sydd â ffurf adnabod sengl” (“single-identified animal”) yw anifail a adnabuwyd ag un modd adnabod hŷn yn unig a hwnnw’n cynnwys rhif unigryw a osodwyd o dan y Gorchmynion blaenorol.

3

Pan fo ceidwad yn amnewid tag sydd ar goll neu’n annarllenadwy ar anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005 rhaid i fodd adnabod newydd neu fodd adnabod amnewid fod yn dag adnabod ac nid yn datŵ.

4

Os yw’r anifail ar ei ddaliad genedigol rhaid i’r ceidwad osod yn lle’r modd adnabod sydd ar goll neu’n annarllenadwy—

a

modd adnabod sy’n dwyn yr un rhif unigryw â’r modd adnabod sydd ar goll neu sy’n annarllenadwy;

b

modd adnabod newydd;

c

dau fodd adnabod anelectronig, ill dau yn dwyn yr un rhif; neu

d

y modd adnabod a bennir yn Erthygl 4(1) (y paragraff cyntaf), Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor.

5

Os nad yw’r anifail ar ei ddaliad genedigol, caiff y ceidwad osod yn lle’r modd adnabod sydd ar goll neu’n annarllenadwy—

a

modd adnabod sy’n dwyn yr un rhif unigryw â’r modd adnabod sydd ar goll neu sy’n annarllenadwy;

b

modd adnabod amnewid;

c

dau fodd adnabod anelectronig, ill dau yn dwyn yr un rhif; neu

d

y modd adnabod a bennir yn Erthygl 4(1) (y paragraff cyntaf), Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor.

6

Os caiff anifail ei ailadnabod gyda modd adnabod y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(b) i (d) rhaid i’r ceidwad gofnodi gwybodaeth am y modd adnabod amnewid gan gynnwys y cod adnabod llawn sydd ar y modd adnabod amnewid, a chofnodi’r llythrennau neu’r nod diadell neu’r nod geifre a oedd ar y modd adnabod gwreiddiol, os ydynt yn hysbys, yng nghofrestr y daliad.