- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
21.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo’r modd adnabod neu’r modd adnabod hŷn ar anifail sydd â ffurf adnabod sengl ar goll neu’n annarllenadwy.
(2) Yn yr erthygl hon ystyr “anifail sydd â ffurf adnabod sengl” (“single-identified animal”) yw anifail a adnabuwyd ag un modd adnabod hŷn yn unig a hwnnw’n cynnwys rhif unigryw a osodwyd o dan y Gorchmynion blaenorol.
(3) Pan fo ceidwad yn amnewid tag sydd ar goll neu’n annarllenadwy ar anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005 rhaid i fodd adnabod newydd neu fodd adnabod amnewid fod yn dag adnabod ac nid yn datŵ.
(4) Os yw’r anifail ar ei ddaliad genedigol rhaid i’r ceidwad osod yn lle’r modd adnabod sydd ar goll neu’n annarllenadwy—
(a)modd adnabod sy’n dwyn yr un rhif unigryw â’r modd adnabod sydd ar goll neu sy’n annarllenadwy;
(b)modd adnabod newydd;
(c)dau fodd adnabod anelectronig, ill dau yn dwyn yr un rhif; neu
(d)y modd adnabod a bennir yn Erthygl 4(1) (y paragraff cyntaf), Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor.
(5) Os nad yw’r anifail ar ei ddaliad genedigol, caiff y ceidwad osod yn lle’r modd adnabod sydd ar goll neu’n annarllenadwy—
(a)modd adnabod sy’n dwyn yr un rhif unigryw â’r modd adnabod sydd ar goll neu sy’n annarllenadwy;
(b)modd adnabod amnewid;
(c)dau fodd adnabod anelectronig, ill dau yn dwyn yr un rhif; neu
(d)y modd adnabod a bennir yn Erthygl 4(1) (y paragraff cyntaf), Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor.
(6) Os caiff anifail ei ailadnabod gyda modd adnabod y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(b) i (d) rhaid i’r ceidwad gofnodi gwybodaeth am y modd adnabod amnewid gan gynnwys y cod adnabod llawn sydd ar y modd adnabod amnewid, a chofnodi’r llythrennau neu’r nod diadell neu’r nod geifre a oedd ar y modd adnabod gwreiddiol, os ydynt yn hysbys, yng nghofrestr y daliad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: